Gillian Slovo

Oddi ar Wicipedia
Gillian Slovo
Ganwyd15 Mawrth 1952 Edit this on Wikidata
Johannesburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner De Affrica De Affrica
Galwedigaethysgrifennwr, newyddiadurwr, dramodydd Edit this on Wikidata
TadJoe Slovo Edit this on Wikidata
MamRuth First Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol Edit this on Wikidata

Awdures o Dde Affrica yw Gillian Slovo (ganwyd 15 Mawrth 1952) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bywgraffydd, newyddiadurwr a dramodydd.[1] Ffodd ei theulu i Lundain yn 1964, ac mae'n byw yno, yn alltud, ers hynny. Yn 2013 enillodd y Wobr PEN Aur.

Fe'i ganed yn Johannesburg, De Affrica ar 15 Mawrth 1952.[2][3][4]

Aeth Slovo i Brifysgol Manceinion, gan raddio ym 1974 gyda gradd baglor mewn hanes ac athroniaeth gwyddoniaeth, cyn gweithio fel newyddiadurwr a chynhyrchydd teledu.[1]

Y nofelydd[golygu | golygu cod]

Roedd nofelau Slovo ar y dechrau'n bennaf yn y genres trosedd a chyffro, gan gynnwys cyfres am y ditectif Kate Baeier, ond ers hynny mae hi wedi ysgrifennu mwy o ffuglen lenyddol. Cafodd ei gwaith 2000 Red Dust, drama mewn llys barn, sy'n archwilio ystyr ac effaith Comisiwn Gwirionedd a Chymod De Affrica, ei wneud yn ffilm o'r un enw (2000 Red Dust) a ryddhawyd yn 2004, dan gyfarwyddyd Tom Hooper a Hilary Swank, Chiwetel Ejiofor a Jamie Bartlett. Gwaith Slovo yn 2004 Cafodd Ice Road ei roi ar restr fer Gwobr Ffuglen Orange. Mae'r nofel yn cynnwys digwyddiadau go iawn (marwolaeth Sergey Kirov) gyda detholiad ffuglennol o fywyd yn ystod Gwarchae Leningrad (1941 - 1944).

Cyhoeddodd Slovo ei chofiant yn 1997: Every Secret Thing: My Family, My Country, sef hanes ei phlentyndod yn ne Affrica, a'i pherthynas â'i rhieni Joe Slovo a Ruth First - arweinwyr enwog yn y Blaid Gomiwnyddol yn Ne Affrica a ffigurau mawr yn y frwydr gwrth-apartheid. Bu'r ddau'n byw bywydau peryglus cyn troi'n alltud, gan gael eu carcharu'n achlysurol, a arweiniodd at lofruddiaeth ei mam gan luoedd De Affrica ym 1982. Ysgrifennodd gyda'i chwaer, Shawn Slovo, gofiant am y teulu, ar ffurf ffilm o'r enw A World Apart (1988), gan serennu Barbara Hershey. Gyda Victoria Brittain, lluniodd Slovo y ddrama Guantanamo: Honor Bound to Defend Freedom, a berfformiwyd mewn theatrau drwy'r byd.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Gillian Slovo Biography, https://www.enotes.com/topics/gillian-slovo Archifwyd 2019-05-30 yn y Peiriant Wayback.
  2. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12143257p. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12143257p. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: "Gillian Slovo".