Geri Allen
Geri Allen | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Geri Allen-Roney ![]() |
Ganwyd | Geri Antoinette Allen ![]() 12 Mehefin 1957 ![]() Pontiac ![]() |
Bu farw | 27 Mehefin 2017 ![]() o canser ![]() Philadelphia ![]() |
Label recordio | Motéma Music ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | jazz pianist, athro cerdd, academydd, cynhyrchydd recordiau, cyfansoddwr, artist recordio ![]() |
Cyflogwr |
|
Arddull | jazz, bebop ![]() |
Priod | Wallace Roney ![]() |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim ![]() |
Gwefan | http://www.geriallen.com ![]() |
Pianydd a chyfansoddwraig jazz Americanaidd oedd Geri Allen (12 Mehefin 1957 – 27 Mehefin 2017).
Ganwyd Allen ym Mhontiac, Michigan, ond fe'i magwyd yn Netroit[1]. Daeth i'r amlwg fel perfformiwr yn ystod yr 1980au fel rhan o'r mudiad M-Base, arddull oedd yn cyfuno elfennau o jazz rhydd gyda cherddoriaeth hip-hop. Roedd Allen yn ymwneud â jazz rhydd drwy gydol ei gyrfa - fe'i clywyd ar nifer o recordiau hwyr Ornette Coleman - heb erioed gamu'n llawn i'r maes hwnnw yn ei recordiau ei hun. Roedd ei harddull bersonol yn y 90au yn cyfuno elfennau rhydd gyda dylanwadau o gerddoriaeth glasurol.
Yn ogystal â bod yn berfformiwr pwysig, enillodd Allen glod fel addysgwraig. Bu'n Athro mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Pittsburgh, ac yn gyfarwyddwr ar y rhaglen Astudiaethau Jazz yno.
Bu farw Allen o ganser ar 27 Mehefin 2017 yn 60 oed.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cook, Richard (2005). Richard Cook's Jazz Encyclopedia. Llundain: Penguin Books. tt. 8. ISBN 0-141-00646-3.
- ↑ Adlet, David R. (27 Mehefin 2017). "Geri Allen, Brilliantly Expressive Pianist, Composer and Educator, Dies at 60". WGBO. Cyrchwyd 27 Mehefin 2017.
- Genedigaethau 1957
- Marwolaethau 2017
- Academyddion benywaidd yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Academyddion Prifysgol Michigan
- Academyddion Prifysgol Pittsburgh
- Cerddorion Affricanaidd-Americanaidd
- Cyfansoddwyr benywaidd yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Cyfansoddwyr benywaidd yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Cyfansoddwyr jazz o'r Unol Daleithiau
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Howard
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Pittsburgh
- Pianyddion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Pianyddion yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Pianyddion jazz o'r Unol Daleithiau
- Merched a aned yn y 1950au
- Pobl a aned ym Michigan
- Pobl fu farw yn Philadelphia
- Pobl fu farw o ganser