Gerardus Vossius

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gerardus Vossius
Gerardus Johannes Vossius (1577-1649), by Anonymous.jpg
Ganwyd 1577 Edit this on Wikidata
Schönau, Heidelberg Edit this on Wikidata
Bu farw 19 Mawrth 1649 Edit this on Wikidata
Amsterdam Edit this on Wikidata
Alma mater Prifysgol Leiden Edit this on Wikidata
Gwaith diwinydd, astudiwr cerddoriaeth, damcaniaethwr cerddoriaeth, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr Prifysgol Amsterdam, Prifysgol Leiden Edit this on Wikidata
Plant Isaac Vossius, Dionies Vos, Matthäus Vossius Edit this on Wikidata

Ysgolhaig a diwinydd Iseldiraidd oedd Gerardus Vossius (Iseldireg: Gerrit Janszoon Vos; 1577 – 19 Mawrth 1649).

Ganwyd ger Heidelberg i rieni Iseldiraidd. Gweinidog Protestanaidd o'r enw John Voss oedd ei dad, ac yn ôl defod yr amseroedd, rhoes derfyniad Lladinaidd i'w enw, ac o blegid hynny, mabwysiadodd ei fab ef hefyd. Dychwelodd y teulu i Holand ym 1578, ac ymsefydlasant yn Dordrecht, lle yr aeth Vossius i'r ysgol. Wedi hynny, enwogodd ei hun ym Mhrifysgol Leiden, a phan yn 22 oed fe ddychwelodd i Dordrecht i gymryd swydd prifathro yn yr ysgol yno. Priododd yn fuan wedi hyn, ond bu farw ei wraig ym 1607, gan adael ar ei hôl dri o blant. Priododd yntau eilwaith yn ystod yr un flwyddyn, a bu ganddo o'i ail wraig ddau o feibion a phump o ferched. Nid ymddengys i Vossius gyhoeddi nemawr yn y rhan boreuaf o'i fywyd, ond yr oedd yn adnabyddus ymysg ei gydwladwyr fel ysgolhaig a diwinydd, ac y mae ei gwbl ymroddiad i fywyd o efrydiaeth yn dyfod i'r golwg yn eglur oddi wrth y ffaith na oddefai efe un amser i gyfaill fod gydag ef am fwy na chwarter awr ar y pryd.

Ym 1614, penodwyd ef yn brifathro yng ngholeg diwinyddol Leiden, a thra'n gweinyddu yn y swydd hon, cyhoeddodd ei waith ar Belagiaeth, Historia Pelagiana. Yn y gwaith hwn, ysgrifenai am yr Arminiaid mewn tôn amddiffynol, a thrwy hynny, tynodd arno ei hun ŵg dosbarth mawr o'r clerigwyr Iseldiraidd, yr hyn a achosodd iddo ef gael ei amddifadu o'r swydd o athro diwinyddol a'i chyflog. Tynodd y gwaith hwn sylw yn Lloegr, a gwnaed rhyw gymaint o'i golled i fyny drwy iddo gael ei benodi i swydd gan yr Archesgob Laud, ddygodd iddo ganpunt yn y flwyddyn, heb fod yn angenrheidiol iddo breswylio allan o'r Iseldiroedd. Yn ei lyfr De Historicis Latinis, a gyhoeddwyd ym 1627, galwodd yn ôl y golygiadau y rhoddodd efe gyhoeddusrwydd iddynt, ac ymheddychodd â'r eglwys. Ym 1633, penodwyd ef yn athro hanesyddiaeth ym mhrifysgol newydd Amsterdam, lle yr ymddengys iddo ymrodi i gwblhau ei brif weithiau. Ymysg y rhai pwysicaf ohonynt mae Aristarchus sive de Arte Grammatica, De Historicis Gracis, Commentariorum Rhetoricorum, a De Veterum Poetarum Temporibus. Ym 1649, fel yr oedd efe yn esgyn i fyny ysgol yn y llyfrgell i estyn llyfr, torodd dano, a chwympodd yntau dan y silffoedd a'r llyfrau, a bu farw o'r herwydd yn 72 oed.

Y mae ei bum mab, Denis, Francis, Gerard, Mathew, ac Isaac, yn adnabyddus fel awduron.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.