Georgi Parvanov

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Georgi Parvanov
Georgi S. Parvanov.jpg
Ganwyd 28 Mehefin 1957 Edit this on Wikidata
Sirishtnik Edit this on Wikidata
Addysg Doktor Nauk mewn Hanes Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Sofia
Galwedigaeth gwleidydd, hanesydd Edit this on Wikidata
Gwobr/au Urdd Brenhinol y Seraffim, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav, Urdd y dair Seren, Dosbarth 1af, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Collier de l'ordre de la Croix de Terra Mariana, Uwch Goler Urdd Tywysog Harri, Urdd y dair Seren, Dosbarth 1af, Q23058092, Grand Cross of the Order of Saint-Charles, Urdd y Weriniaeth, Urdd yr Eliffant Edit this on Wikidata
Llofnod
Signature of Georgi Parvanov.png

Arlywydd Bwlgaria o 22 Ionawr 2002 hyd 22 Ionawr 2012 oedd Georgi Sedefchov Parvanov (Bwlgareg Георги Седефчов Първанов) (ganwyd 28 Mehefin 1957).

Fe'i hetholwyd yn etholiadau arlywyddol mis Tachwedd 2001. Ailetholwyd ym mis Hydref 2006 â 73% o'r bleidlais yn yr rownd derfynol yn erbyn y cenedlaetholwr Volen Siderov, y tro cyntaf i arlywydd Bwlgaria gael ei ailethol ers cwymp Comiwnyddiaeth. Cyn dod yn arlywydd roedd yn aelod o Blaid Sosialaidd Bwlgaria. Gadawodd y blaid ar ôl cael ei ethol yn arlywydd gan na chaiff Arlywydd Bwlgaria fod yn aelod o blaid wleidyddol. Mae o blaid aelodaeth Bwlgaria o'r Undeb Ewropeaidd a NATO.