George Lort Phillips

Oddi ar Wicipedia
George Lort Phillips
Ganwyd4 Gorffennaf 1811 Edit this on Wikidata
Bu farw30 Hydref 1866 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadJohn Lort Phillips Edit this on Wikidata
PriodIsabel Georgina Allen Edit this on Wikidata

Roedd George Lort Phillips (4 Gorffennaf 181130 Hydref, 1866) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Benfro rhwng 1861 a 1866 [1].

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Phillips yn Stokeham, Dyfnaint yn fab i John Lort Phillips, ac Agusta Ilburt ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn Harrow a Choleg y Drindod, Caergrawnt.

Priododd Isabella Georgina unig ferch John Hensleigh Allen, Creselly (AS Penfro 1818 - 1826). Ni fu iddynt blant[2].

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ar farwolaeth Syr William Barlow ym 1851 etifeddodd Phillips ystadau Lawrenny, Rhosfarced a Nash.

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Benfro ym 1843 a bu’n Ynad Heddwch ar fainc Sir Benfro.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Ym 1861 dyrchafwyd Aelod Seneddol Sir Benfro, yr Is-iarll Emlyn, i Dŷ’r Arglwyddi ar farwolaeth ei dad, Iarll Cawdor, a bu isetholiad. Safodd y Cyrnol Hugh Owen Owen ar ran y Blaid Ryddfrydol a Phillips ar ran y Ceidwadwyr. Enillwyd y sedd yn weddol gyffyrddus gan Phillips:

Isetholiad Sir Benfo 1861
Etholfraint: 2,700
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr George Lort Phillips 1,194 54.9
Rhyddfrydol Y Cyrnol Hugh Owen Owen 979 45.1
Mwyafrif 215
Y nifer a bleidleisiodd 77.4
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Cadwodd y sedd yn ddiwrthwynebiad yn etholiad cyffredinol 1865 a’i dal hyd ei farwolaeth ym 1866.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw wedi damwain wrth hela yn ei gartref, Castell Lawrenny, yn 55 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys Hwlffordd[3].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Is-iarll Emlyn
Aelod Seneddol Sir Benfro
18611866
Olynydd:
James Bevan Bowen