Geneufor Benin

Oddi ar Wicipedia
Geneufor Benin
Map o Gwlff Gini, gan ddangos Geneufor Benin yng ngogledd y gwlff ar hyd arfordiroedd Ghana, Togo, Benin, a Nigeria.
Mathbae Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBenin Empire Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGwlff Gini Edit this on Wikidata
GwladNigeria, Benin, Togo, Ghana Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau5.5°N 4°E Edit this on Wikidata
Map

Geneufor neu fae yng ngogledd Gwlff Gini, yng Nghefnfor yr Iwerydd, yw Geneufor Benin sy'n ymestyn ar hyd arfordiroedd de-ddwyrain Ghana, Togo, Benin, a de-orllewin Nigeria yng Ngorllewin Affrica. Mae ganddo hyd o ryw 400 o filltiroedd, o Benrhyn St. Paul, Ghana, yn y gorllewin i aber Nun, Nigeria, yn y dwyrain. Mae nifer o afonydd yn llifo i Eneufor Benin, gan gynnwys Sio, Haho, Mono, Couffo, Ouémé, Benin, Forcados, a rhan o aberoedd Niger. Mae prif borthladdoedd y geneufor yn cynnwys Lomé, prifddinas a dinas fwyaf Togo; Cotonou, dinas fwyaf Benin; a Lagos, dinas fwyaf Nigeria ac un o ardaloedd trefol mwyaf Affrica.

Geneufor Benin oedd canolfan masnach gaethweision yr Iwerydd yng Ngorllewin Affrica o'r 16g i'r 19g, ac hen enw'r ardal oedd Glannau'r Caethion, rhwng y Traeth Aur i'r gorllewin a Geneufor Biaffra (aberoedd Afon Niger) i'r dwyrain. Ers dechrau'r 19g, olew palmwydd ydy'r prif ddiwydiant. Yn niwedd y 1950au, darganfuwyd petroliwm yn Nelta Niger ac mae'r diwydiant olew yn bwysig yn nwyrain Geneufor Benin. Prif allforion eraill yr ardal yw hadau'r palmwydd olew, coco, coffi, pren caled, a rwber.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Bight of Benin. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Mai 2024.