Gei o Warwig

Oddi ar Wicipedia
Gei o Warwig
Cerflun o Gei o'r 17g yn Ninas Llundain, gydag arysgrif hwyrach yn cyfeirio'r darllenydd at Account of London gan yr hynafiaethydd Cymreig Thomas Pennant
Enghraifft o'r canlynolffigwr chwedlonol, cymeriad llenyddol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Arwr yn chwedloniaeth ganoloesol y Saeson yw Gei o Warwig neu Guy o Warwick (Saesneg: Guy of Warwick) a fu'n gymeriad poblogaidd yn rhamantau Lloegr a Ffrainc.

Gellir olrhain yr enghraifft hynaf o'r chwedl, mae'n debyg, i lenyddiaeth Hen Ffrangeg y 12g.[1] Ysgrifennwyd y rhamant fydryddol Saesneg Canol oddeutu 1300, yn seiliedig ar fersiwn Eingl-Normaneg wreiddiol a geir mewn 13 llawysgrif. Ymddengys y trosiad Saesneg mewn pedair llawysgrif, yn amrywio o saith mil i ddeuddeng mil o linellau.[2]

Yn ôl y traddodiad Saesneg, mab Siward, distain i Rohand, Dug Warwig, oedd Gei. Traddodir ei gampau wrth geisio ennill serch Fenice, merch iarll. Mae'n achub merch Ymerawdwr yr Almaen, yn brwydro'r Saraseniaid, ac yn lladd y Swltan cyn iddo ddychwelyd i Loegr a chael ei dderbyn gan y Brenin Athelstan, a phriodi Fenice. Mae'n teithio'n ôl i'r Wlad Sanctaidd i gyflawni rhagor o orchestion, ac yn dychwelyd unwaith eto i Loegr i drechu'r cawr Danaidd Colbrand, Buwch Dunsmore, a draig adeiniog yn Northumberland. Mae'n troi'n feudwy ac yn derbyn oddi ar Fenice – heb iddi ei gydnabod, nes iddo anfon ei fodrwy iddi hi o wely ei angau.[2]

Bu'r chwedl yn hynod o boblogaidd am iddi gyfuno arddull buchedd y saint ag antur a brwydro, a châi Gei ei ddyrchafu'n arwr cenedlaethol gan y Saeson fel esiampl o wrthsafiad Athelstan yn erbyn y Daniaid yn y 10g. Cafodd ei dderbyn yn ffigur gwir hanesyddol gan y croniclwyr, ac hawliodd Ieirll Warwig, y teulu Beauchamp, eu bod yn disgyn o Gei. Rhoddai John Lydgate stori Gei ar fydr, tua 1450, a chyfeirir at y cymeriad yn "Byd a Bywyd", cywydd gan Siôn Cent, a'r gerdd Saesneg "Poly-Olbion" gan Michael Drayton. Cenid y chwedl mewn taflenni baledi hyd at y 19g.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Guy Of Warwick (English hero). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2021.
  2. 2.0 2.1 Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Oxford University Press, 1995), t. 431.