Gefeil-lys lloerddail

Oddi ar Wicipedia
Gefeil-lys lloerddail
Cephalozia lunulifolia

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Cephaloziaceae
Genws: Cephalozia
Rhywogaeth: C. lunulifolia
Enw deuenwol
Cephalozia lunulifolia

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Gefeil-lys lloerddail (enw gwyddonol: Cephalozia lunulifolia; enw Saesneg: moon-leaved pincerwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain yn ogystal ag Iwerddon a nifer o wledydd eraill gan gynnwys Canada.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r coesynnau tua 0.2–0.6 mm o led ac mae'r dail yn llai na 0.5 mm o hyd. Mae'n eitha tebyg i'r Gefeil-lys cadwynol (C. catenulata) ac mae'r ddwy rywogaeth yn ddioicous ac yn tyfu ar yr un math o dir, fel arfer mewn coedwigoedd llaith.

Cynefin[golygu | golygu cod]

Mae'n hoff o dir agored, gan gynnwys bryniau caregog neu lethrau a mawnogydd. Gall hefyd dyfu, ar adegau, ar greigiau asidig neu mewn corsdir.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Gefeil-lys lloerddail gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.