Geert Wilders

Oddi ar Wicipedia
Geert Wilders
Ganwyd6 Medi 1963 Edit this on Wikidata
Venlo Edit this on Wikidata
Man preswylDen Haag Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhiniaeth yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Open University of the Netherlands Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Iseldiroedd, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Iseldiroedd, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Iseldiroedd, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid y Bobl am Ryddid a Democratiaeth, Party for Freedom Edit this on Wikidata
TadJohannes Henricus Andreas Wilders Edit this on Wikidata
MamMaria Anne Ording Edit this on Wikidata
PriodKrisztina Wilders Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.geertwilders.nl/ Edit this on Wikidata

Gwleidydd Iseldiraidd yw Geert Wilders (ganed 6 Medi 1963) a arweinia'r Blaid dros Ryddid (PVV) ers iddo'i sefydlu yn 2006. Enillodd y PVV y nifer fwyaf o seddi yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr yn etholiad 2023, ac mae disgwyl iddo geisio ffurfio clymblaid i lywodraethu'r wlad.[1]

Ganed ef i deulu dosbarth-canol yn Venlo, yn nhalaith Limburg yn ne-ddwyrain yr Iseldiroedd. Cafodd ei fagu'n Gatholig, a mynychodd yr ysgol uwchradd yn Venlo cyn astudio'r gyfraith gyda'r Brifysgol Agored yn yr Iseldiroedd. Aeth i fyw yn Israel o 1981 a 1983 a theithiodd trwy'r Dwyrain Canol, gan fagu ynddo daliadau gwrth-Islamaidd. Wedi iddo ddychwelyd i'r Iseldiroedd, gweithiodd yn y diwydiant yswiriant iechyd.

Etholwyd Wilders i gyngor dinesid Utrecht ym 1997 fel aelod o Blaid y Bobl dros Ryddid a Democratiaeth (VVD), ac ym 1998 cafodd ei ethol i Dŷ'r Cynrychiolwyr, siambr isaf y ddeddfwrfa genedlaethol. Daeth Wilders yn adnabyddus yn nechrau'r 2000au wrth i elfen o'r cyhoedd yn yr Iseldiroedd droi yn erbyn Islamiaeth, yn enwedig yn sgil llofruddiaeth Theo van Gogh yn 2004 a'r bygythiadau yn erbyn Ayaan Hirsi Ali. Galwodd Wilders am gyfyngu ar y niferoedd o fewnfudwyr Mwslimaidd, a disgrifiai Islam fel "ideoleg ffasgaidd". Derbyniodd hefyd gefnogaeth oddi ar nifer o hen ddilynwyr Pim Fortuyn, a lofruddiwyd yn 2002.

Gadawodd Wilders yr VVD yn 2004, yn rhannol mewn protest yn erbyn cefnogaeth y blaid dros esgyniad Twrci i'r Undeb Ewropeaidd. Sefydlodd y PVV yn Chwefror 2006, ac enillodd y blaid newydd naw sedd yn yr etholiad cyffredinol yn Nhachwedd 2006. Arddelai'r PVV ideoleg genedlaetholgar, gwrth-Islamaidd, ac ewrosgeptigaidd, a chynigodd Wilders bolisïau dadleuol megis gwahardd y Coran a chau mosgiau. Yn 2008, cynhyrchodd y ffilm fer Fitna, sy'n rhyngwau adnodau o'r Coran gyda lluniau o derfysgaeth Islamaidd. Yn ystod ei daith i hyrwyddo'r ffilm, cafodd ei wahardd o'r Deyrnas Unedig yn Chwefror 2009, penderfyniad a ddiddymwyd yn y pen draw. Fe'i cyhuddwyd yn Ionawr 2009 o gyffroi casineb tuag at Fwslimiaid, ac wedi achos llys hir fe'i cafwyd yn ddieuog o'r diwedd ym Mehefin 2011.

Cafodd y PVV rywfaint o lwyddiant etholiadol, gan ennill pedair sedd yn yr etholiad i Senedd Ewrop yn 2009 gyda chyfanswm o 16.9% o'r bleidlais, a 15 sedd yn etholiad cyffredinol 2010. Cytunodd Wilders i gefnogi'r llywodraeth leiafrifol a ffurfiwyd gan y VVD a'r Democratiaid Cristnogol dan y Prif Weinidog Mark Rutte, er nad oedd y PVV yn rhan o'r glymblaid ei hun. Cafodd ei gynghori ar faterion polisi, ond wrth i 2011 mynd rhagddi aeth Wilders yn fwyfwy feirniadol o ymdrechion y llywodraeth i gwtogi ar wariant cyhoeddus. O'r diwedd, yn Ebrill 2012, tynnodd Wilders gefnogaeth ei blaid yn ôl o'r llywodraeth glymblaid, i brotestio'n erbyn y rhaglen gyllidol ddarbodus a gynigwyd gan Rutte. Cwympodd y llywodraeth felly, a chynhaliwyd etholiad ym Medi 2012. Fodd bynnag, trodd yr etholwyr yn erbyn y pleidiau llai, a chollodd y PVV naw o'i seddi. Yn y cyfnod i ddod, canolbwyntiodd Wilders ar gryfhau cysylltiadau â phleidiau ewrosgeptigaidd eraill Ewrop, ac yn Nhachwedd 2013 ffurfiodd gynghrair â'r Front National (FN) yn Ffrainc. Er i'r FN ennill y niferoedd mwyaf o bleidleisiau a seddi Ffrengig yn yr etholiad i Senedd Ewrop ym Mai 2014, daeth y PVV yn drydydd o'r pleidiau Iseldiraidd, gan golli un o'i seddi.

Rhoddwyd Wilders ar brawf am yr eildro yn 2016, yn sgil rali a gynhaliwyd yn 2014 pan gyhoeddodd y byddai'n cwtogi ar y niferoedd o Forociaid a dderbyniwyd i'r Iseldiroedd. Fe'i cafwyd yn euog o ysgogi gwahaniaethu, a sarhau grŵp, ond yn ddieuog o ysgogi casineb. Ni dderbyniodd ddedfryd. Er gwaetha'r euogfarn, daeth y PVV yn ail yn yr etholiad cyffredinol ym Mawrth 2017, gan ennill 20 o seddi. Daeth y PVV yn drydydd yn etholiad 2021, gyda 17 o seddi, ond yn 2023 enillodd y blaid 23.6% o'r bleidlais a 37 o seddi, y blaid fwyaf yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Paul Kirby ac Anna Holligan, "Dutch election: Anti-Islam populist Geert Wilders wins dramatic victory", BBC (23 Tachwedd 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Tachwedd 2023.