Gary Sprake
| Gary Sprake | |
|---|---|
| Ganwyd | 3 Ebrill 1945 Abertawe |
| Bu farw | 18 Hydref 2016 Solihull |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Galwedigaeth | pêl-droediwr |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Birmingham City F.C., Leeds United F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru |
| Safle | gôl-geidwad |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
| Gyrfa Ieuenctid | |||
|---|---|---|---|
| 1962-1963 | Leeds United | ||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 1962–1973 | Leeds United | 381 | (0) |
| 1973–1975 | Birmingham City | 16 | (0) |
| Cyfanswm | 397 | (0) | |
| Tîm Cenedlaethol | |||
| 1963–1974 | Cymru | 37 | (0) |
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Pêl-droediwr o Gymru oedd Gareth (Gary) Sprake (3 Ebrill 1945 – 18 Hydref 2016).[1] Roedd yn golgeidwad a chwaraeodd i Leeds United, Birmingham City ac enillodd 37 cap dros Gymru.
Fe'i ganwyd ym maestref Winsh-wen, Abertawe.
Gwelwyd ei botensial gan sgowt o Leeds tra roedd yn chwarae i dîm ieuenctid Abertawe. O fewn 18 mis roedd wedi ennill cap am chwarae dros ei wlad: yn ddim ond deunaw oed - y gôl-geidwad ieuengaf i chwarae dros Gymru erioed.
Bu o gymorth i Leeds a chawsant eu dyrchafu i'r Gynghrair Gyntaf yn 1963/64, lle arhosodd y tîm am rai blynyddoedd. Yn 1978 cyhuddodd y rheolwr Don Revie o roi cil-dwrn i chwaraewyr timau eraill, a threfnu canlyniadau gemau. Derbyniodd swm o arian gan y papur newydd y Daily Mirror. Trodd llawer o swyddogion a ffans Leeds yn ei erbyn, ond daliodd i fynnu fod y cyhuddiadau yn erbyn Sprake yn gywir.
Dioddefodd am rai blynyddoedd o boenau yn ei gefn, ac fe'i beirniadwyd gan rai am fethu ag arbed y bêl, ar adegau.
Cofiant
[golygu | golygu cod]- Careless Hands: The Forgotten Truth of Gary Sprake, gan Tim Johnson & Stuart Sprake
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ theguardian.com; coffad iddo yn y Guardian; adalwyd 22 Hydref 2016