Gagra
![]() | |
![]() | |
Math | tref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 11,959, 3,659, 26,636, 24,409, 23,025, 14,023, 9,808 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Ikaalinen ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Abchaseg, Rwseg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Abkhaz Autonomous Soviet Socialist Republic, Socialist Soviet Republic of Abkhazia, Principality of Abkhazia, Black Sea Governorate, Gagra Municipality ![]() |
Gwlad | ![]() |
Gerllaw | Afon Reprua ![]() |
Cyfesurynnau | 43.28333°N 40.26667°E ![]() |
Cod post | 6700–6799 ![]() |
![]() | |
Dinas yn rhanbarth Abchasia, yng ngorllewin y Georgia hanesyddol, yw Gagra (Abchaseg a Rwseg: Гагра, Georgeg:გაგრა). Gorwedd ar lan ogledd-ddwyreiniol y Môr Du, wrth droed Mynyddoedd Caucasus. Mae Gagra'n ran o ardal ehangach gyda'r un enw. Mae Abchasia'n weriniaeth sydd wedi torri i ffwrdd o Georgia, er ei bod, yn rhyngwladol, yn dal i gael ei hadnabod yn swyddogol fel rhan o'r wlad honno. Roedd poblogaeth o 26,636 yn 1989, ond mae hyn wedi disgyn llawer ers hynny oherwydd carthu ethnig y Georgiaid o Abchasia.
Sefydlwyd y dref fel gwladfa Roegaidd hynafol o'r enw Triglite yn wreiddiol, a gyfaneddwyd gan Groegiaid a Colciaid. Daeth dan lywodraeth teyrnas Pontus yn y ganrif gyntaf OC cyn cael ei llyncu'n ran o'r Ymerodraeth Rufeinig, pryd ailenwyd y dref yn Nitica. Fe achosodd ei lleoliad daearyddol i'r Rhufeiniad ei atgyfnerthu fel caer, a chafwyd ymosodiadau aml arni gan y Gothiaid a goresgynwyr eraill. Ar ôl i Rufain syrthio, cymerodd ei holynydd, yr Ymerodraeth Fysantaidd, reolaeth o'r dref. Ynghyd â gweddill Abkhazia, cyfunwyd Gagra yn rhan o deyrnas Georgiaidd Imereti o'r 9g ymlaen.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- Gwefan y ddinas
- (Rwseg) gagra.narod.ru