Fforwm rhyngwladol ar gyfer llywodraethau'r Almaen, Canada, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc, Japan, Rwsia, ac Unol Daleithiau America oedd yr G8 (Grŵp yr Wyth) a fodolai o 1997 i 2014. Sefydlwyd yn sgil ychwanegu Rwsia at yr G7, a daeth i ben pan gafodd Rwsia ei diarddel yn sgil cyfeddiannu'r Crimea ym Mawrth 2014. Ar un pryd, gyda'i gilydd roedd y gwledydd hyn yn cynrychioli tua 65% o economi'r byd.[1]
Roedd gweithgareddau'r grŵp yn cynnwys cynadleddau trwy'r flwyddyn ac ymchwil polisi, sy'n diweddu gyda chynhadledd flynyddol rhwng penaethiaid llywodraethol yr aelodau-wladwriaethau. Cynrychiolwyd y Comisiwn Ewropeaidd yn y cynadleddau hefyd. Pob blwyddyn, byddai aelod-wladwriaethau'r G8 yn cymryd eu tro fel llywyddiaeth y grŵp. Byddai deiliad y llywyddiaeth yn gosod agenda flynyddol y grŵp ac yn cynnal cyfarfod y flwyddyn honno.