Future TV
Mae Future Television neu Future TV (Arabeg: تلفزيون المستقبل, Telviziyon Al Mustaqbal) yn un o'r sianeli teledu mwyaf poblogaidd yn Libanus a'r Byd Arabaidd. Mae'n darlledu o Beirut.
Fe'i sefydlwyd yn 1993 gan y diweddar Rafik Hariri, cyn-brifweinidog Libanus. Mae Future TV ar gael yn ogystal trwy loeren yn Ewrop, yr Unol Daleithiau, Canada, ac Awstralia. O ran ei wleidyddiaeth, mae'r sianel yn cefnogi safbwynt teulu'r Haririaid a'i gefnogwyr.
Mae Future TV yn cystadlu â LBCI.
Dolen allanol[golygu | golygu cod]
- Gwefan swyddogol Archifwyd 2006-12-05 yn y Peiriant Wayback.