Fumiko Enchi

Oddi ar Wicipedia
Fumiko Enchi
Ganwyd2 Hydref 1905 Edit this on Wikidata
Asakusa Edit this on Wikidata
Bu farw12 Tachwedd 1986, 14 Tachwedd 1986 Edit this on Wikidata
Tokyo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Japan Japan
Alma mater
  • Prifysgol y Merched, Japan Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, dramodydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol y Merched, Gwobr Lenyddiaeth Noma, Gwobr Llenyddiaeth Benywod, Gwobr Tanizaki, Prif Wobr Llenyddiaeth Siapan, Person Teilwng mewn Diwylliant, Urdd Diwylliant Edit this on Wikidata
Yn yr enw Japaneaidd hwn, Enchi yw'r enw teuluol.

Llysenw awdures o Japan oedd Fumiko Enchi (円地 文子 neu Enchi Fumiko; 2 Hydref 1905 - 12 Tachwedd 1986) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd a dramodydd a hynny yn ystod y cyfnod Shōwa.

Ganed Fumiko Ueda yn Tokyo ac yno hefyd y bu farw o drawiad ar y galon; fe'i claddwyd ym Mynwent Yanaka. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol y Merched, Japan.[1][2][3][4][5][6]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Ganwyd Fumiko Enchi yn ardal Asakusa yn Downtown Tokyo, yn ferch i ieithegydd ac ieithydd o fri ym Mhrifysgol Imperial Tokyo, sef Kazutoshi Ueda. Cafodd afiechyd pan oedd yn blentyn ac ni allai fynychu dosbarthiadau yn yr ysgol yn rheolaidd, felly penderfynodd ei thad ei chadw gartref. Dysgwyd llenyddiaeth Saesneg, Ffrangeg a Tsieineaidd iddi trwy diwtoriaid preifat. Cafodd ei dylanwadu'n gryf hefyd gan ei mam-gu tadol, a'i chyflwynodd i'r clasuron Siapaneaidd fel Genji monogatari (Chwedl y Genji).

Yn 13 oed, roedd ei rhestr ddarllen yn cynnwys gweithiau Oscar Wilde, Edgar Allan Poe, Kyōka Izumi, Nagai Kafū, Ryūnosuke Akutagawa, ac yn enwedig Jun'ichirō Tanizaki yr oedd ei agwedd sado-masochistaidd wedi ei swyno.

Coleg[golygu | golygu cod]

Rhwng 1918 a 1922, mynychodd Brifysgol Merched Japan, ond gorfodwyd hi i roi'r gorau ar ei hastudiaethau oherwydd ei hiechyd. Fodd bynnag, anogwyd ei diddordeb yn y theatr gan ei thad, ac fel merch ifanc, mynychodd ddarlithoedd Kaoru Osanai, sylfaenydd drama fodern Japan. Ysbrydolwyd ei dramâu gan Osanai Kaoru, ac roedd llawer o’i dramâu diweddarach yn canolbwyntio ar symudiadau chwyldroadol a gwrthdaro deallusol.

Nofelau[golygu | golygu cod]

  • Kaze no gotoki kotoba (Geiriau fel y Gwynt, 1939)
  • Ten no sachi, umi no sachi (Trysorau Nef a Môr, 1940)
  • Shunju (Gwanwyn a Hydref, 1943)
  • Onna Zaka (Blynyddoedd yr Aros, 1949–1957). Kodansha. ISBN 477002889X
  • Onna Men (Masgiau, 1958)
  • Nama miko monogatari (1965) ISBN 0824821874
  • Saimu (Lliw'r Niwl, 1976)

Dramau un act[golygu | golygu cod]

  • Furusato (Man geni, 1926)
  • Banshu sōya (Noson Ddigwsg yn y Gwanwyn Hwyr, 1928)

Cyfieithiad[golygu | golygu cod]

  • Enchi Genji.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Lenyddol y Merched (1953), Gwobr Lenyddiaeth Noma (1957), Gwobr Llenyddiaeth Benywod (1966), Gwobr Tanizaki (1969), Prif Wobr Llenyddiaeth Siapan (1972), Person Teilwng mewn Diwylliant (1979), Urdd Diwylliant (1985) .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13619972b. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_113. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
  3. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13619972b. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: "Enchi Fumiko". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Fumiko Enchi". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Enchi Fumiko". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Fumiko Enchi". "Fumiko Enchi". ffeil awdurdod y BnF.
  5. Dyddiad marw: "Fumiko Enchi". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Fumiko Enchi". ffeil awdurdod y BnF.
  6. Rimer, Thomas J (2014). The Columbia Anthology of Modern Japanese Drama. Efrog Newydd: Columbia University Press. pp. 170.