France 24

Oddi ar Wicipedia
France 24
Enghraifft o'r canlynolgorsaf deledu, sianel deledu thematig, cyfryngau dan ofal y wladwriaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu6 Rhagfyr 2006 Edit this on Wikidata
PerchennogFrance Médias Monde Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadFrance Médias Monde Edit this on Wikidata
PencadlysIssy-les-Moulineaux Edit this on Wikidata
Enw brodorolFrance 24 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.france24.com/fr/, https://www.france24.com/en/, https://www.france24.com/es/, https://www.france24.com/ar/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sianel teledu newyddion rhyngwladol Ffrengig yw France 24 (sef France vingt-quatre) sy'n darlledu mewn tair iaith (Ffrangeg, Arabeg a Saesneg) 24 awr y dydd bob dydd o'r wythnos. Lleolir ei bencadlys yn Issy-les-Moulineaux.

Lawnswyd France 24 ar 6 Rhagfyr 2006. Prif gystadleuwyr y sianel yw CNN (UDA), BBC World (DU), Euronews (traws-Ewropeaidd), Deutsche Welle (yr Almaen) ac Al Jazeera (Qatar). Mae wedi cael ei alw "y CNN Ffrengig", chwedl Renaud Donnedieu de Vabres, cyn Weinidog Diwylliant Ffrainc.

Er 2008 mae'r sianel yn perthyn 100% i'r sefydliad cyfryngau cyhoeddus Ffrengig, y Société de l'audiovisuel extérieur de la France, a gymrodd drosodd randdaliadau y cwmnïau darlledu France Télévisions a TF1, a sefydlodd y sianel yn wreiddiol fel menter ar y cyd.

Mae'n darlledu trwy sawl cyfrwng ddigidol, yn cynnwys sawl gwasanaeth teledu lloeren, teledu cêbl, ac ar y rhyngrwyd hefyd trwy ei wefan.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato