Foxhall Newydd
Gwedd
Math | plasty |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Henllan |
Sir | Henllan |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 162 metr |
Cyfesurynnau | 53.1959°N 3.45367°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | DE054 |
Plasdy yn Sir Ddinbych yw Foxhall Newydd, a leolir yng nghymuned Henllan, Dyffryn Clwyd. Mae'n furddun ers blynyddoedd. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I.
Hanes
[golygu | golygu cod]Dechreuwyd adeiladu Foxhall Newydd yn gynnar yn yr 17g gan John Panton, Cofnodwr Dinbych. Mae'r enw 'Foxhall Newydd' yn adlewyrchu uchelgais y perchennog i godi adeilad a fyddai'n cystadlu â'r hen blas Foxhall, gerllaw, cartref teulu'r Llwydiaid, disgynyddion y cartograffyd Humphrey Llwyd. Fodd bynnag, aeth Panton yn fethdalwr cyn medru gorffen y plasdy ac fe'i prynwyd gan y Llwydiaid. Cafodd ei adael heb ei orffen ganddynt.
Erbyn heddiw mae Foxhall newydd yn furddun gyda eiddew yn tyfu hyd ei waliau.