Neidio i'r cynnwys

Flavius Augustus Honorius

Oddi ar Wicipedia
Flavius Augustus Honorius
Ganwyd9 Medi 384 Edit this on Wikidata
Caergystennin, Istanbul Edit this on Wikidata
Bu farw15 Awst 423 Edit this on Wikidata
Ravenna Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, brenin neu frenhines Edit this on Wikidata
SwyddWestern Roman emperor, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadTheodosius I Edit this on Wikidata
MamAelia Flaccilla Edit this on Wikidata
PriodMaria, Thermantia Edit this on Wikidata
LlinachLlinach Theodosius Edit this on Wikidata
Yr Ymerawdwr Bysantaidd Honorius, gan Jean-Paul Laurens (1880). Daeth Honorius yn "Augustus" ar 23 Ionawr 393, yn naw oed.

Roedd Flavius Honorius (9 Medi 38415 Awst 423) yn Ymerawdwr Rhufeinig (393395) ac yna'n Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin hyd ei farwolaeth.

Roedd yn fab ieuengaf i Theodosius I a'i wraig gyntaf Aelia Flaccilla. Cyhoeddwyd Honorius yn "Augustus", ac felly'n gyd-ymerawdwr a'i dad, ar 23 Ionawr 393, yn naw oed. Ar farwolaeth ei dad yn Ionawr 395 rhannwyd yr ymerodraeth rhyngddo ef a'i frawd Arcadius, a ddaeth yn ymerawdwr yn y dwyrain.

Yn ystod y rhan gyntaf o'i deyrnasiad, roedd Honorius yn dibynnu ar y cadfridog Fandalaidd Stilicho. Priododd ferch Stilicho, Maria. Pan ymosododd y Fisigothiaid ar yr Eidal yn 402, symudodd Honorius y brifddinas i Ravenna. Yn ystod ei deyrnasiad bu nifer o wrthryfeloedd ac ymgeisiadau i gipio'r orsedd, ynghyd ag ymosodiadau gan y barbariaid. Yn 408 cymerwyd Stilicho i'r ddalfa a'i ddienyddio. Yn 410 cipiwyd Rhufain gan Alaric I, brenin y Fisigothiaid.

Bu farw Honorius yn 423, heb adael etifedd. Y flwyddyn ddilynol enwebodd yr ymerawdwr yn y dwyrain, Theodosius II, ei gefnder Valentinian III, mab Galla Placidia a Constantius III, yn ymerawdwr yn y gorllewin.

Rhagflaenydd:
Theodosius I
Ymerodron Rhufain Olynydd:
Valentinian III