Moryd Forth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Firth of Forth)
Jump to navigation Jump to search
Moryd Forth
Wfm firth of forth.jpg
Mathmoryd, aber, ffiord Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Siryr Alban Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau56.1667°N 2.75°W Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Leven, Afon Almond, Afon Avon, Afon Carron, Afon Esk, Afon Forth Edit this on Wikidata

Moryd neu aber agored Afon Forth ar arfordir dwyreiniol yr Alban yw Moryd Forth (Gaeleg, Linne Foirthe; Sgoteg Firth o Forth, Saesneg Firth of Forth; Cymraeg Canol, Moryd Gweryd ac 'Aber Gweryd';[1] Lladin Bodotria). Saif Fife ar yr ochr ogleddol a Gorllewin Lothian, dinas Caeredin a Dwyrain Lothian ar yr ochr ddeheuol. Mae'r llanw yn cyrraedd cyn belled a Stirling, ond fel rheol ystyrir fod y firth yn gorffen gwer Pont Kincardine. Yn ddaearegol, ffiord yw Moryd Gweryd, gan iddi gael ei naddu gan rewlif.

Map o'r Firth of Forth

Ceir nifer o drefi ar hyd lannau'r foryd, gyda diwydiannau pwysig, yn cynnwys Grangemouth, Leith, Methil, Inverkeithing, Prestonpans a Rosyth. Croesir y foryd gan bont i'r rheilffordd a phont enwof i'r briffordd, a disgwylir i bont ychwanegol agor yn 2008. Ceir nifer o ynysoedd yn y foryd; yr enwocaf yw Bass Rock.

Fferi Ro-Pax Blue Star 1 yn mynd tan y bont ar y ffordd o Rosyth i Zeebrugge.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Geiriadur yr Academi, t. 535.