Methil
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 10,800 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Levenmouth |
Sir | Fife |
Gwlad | Yr Alban |
Uwch y môr | 14 metr |
Cyfesurynnau | 56.1844°N 3.0223°W |
Cod OS | NT365995 |
Cod post | KY8 |
Tref yn awdurdod unedol Fife, yr Alban, ydy Methil[1] (Gaeleg yr Alban: Meadhchill).[2] Saif ar yr arfordir yn edrych dros Foryd Forth, rhwng Buckhaven i'r gorllewin a Leven i'r dwyrain. Mae Afon Leven yn gwahanu Methil a Leven.
Roedd Methil gynt yn un o borthladdoedd pwysicaf y rhanbarth. Yn hanesyddol, codi glo oedd prif ddiwydiant yr ardal, a byddai rhan fwyaf o’r glo’n cael ei allforio drwy ddociau Methil. Rhwng y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd allforiwyd dros 3,000,000 o dunelli’r flwyddyn drwy'r dociau. Rhwng 1960 a 2011 safai Gorsaf Bŵer Methil, a oedd yn cael ei thanio gan slyri glo, wrth aber Afon Leven.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Methil boblogaeth o 11,010.[3]
Cân y Proclaimers
[golygu | golygu cod]Rhestrir Methil yng nghân deuawd gwerin/pop Albanaidd, The Proclaimers yn eu cân 'Letter from America'. Rhyddhawyd y gân yn 1987 ac mae'n trafod allfudo Albanwyr i edrych am waith. Mae pennill yn y gân sy'n adrodd enwau trefi sydd wedi dioddef o golli gwaith a di-boblogi: "Lochaber no more; Southerland no more; Lewis no more, Skye no more" - sef enwau ardaloedd a effeithiwyd gan Clirio'r Ucheldiroedd yn 19g ac yna cyferbynir hyn gyda'r ardaloedd diwydiant trwm o'r 20g a welwyd diboblogi: "Bathgate no more, Linwood no more; Methil no more; Irvine no more".[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 9 Ebrill 2022
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2021-12-02 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 9 Ebrill 2022
- ↑ City Population; adalwyd 9 Ebrill 2022
- ↑ "The Proclaimers - Letter From America". Dig! fideo swyddogol y gân ar Youtube. Cyrchwyd 27 Chwefror 2009.