Fidel V. Ramos
Fidel V. Ramos | |
---|---|
Yr Arlywydd Fidel V. Ramos ar daith i'r Pentagon yn Ebrill 1998 | |
Ganwyd | 18 Mawrth 1928 Lingayen |
Bu farw | 31 Gorffennaf 2022 o COVID-19 Makati Medical Center |
Dinasyddiaeth | y Philipinau |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
Swydd | Chairman of the Joint Chiefs, Llywydd y Philipinau, Ysgrifennydd Cenedlaethol dros Amddiffyn, Chairman of the Joint Chiefs |
Plaid Wleidyddol | Lakas Kampi CMD |
Tad | Narciso Ramos |
Priod | Amelita Ramos |
Plant | Cristina Ramos-Jalasco |
Gwobr/au | Cadlywydd y Lleng Teilyngdod, Urdd Isabel la Católica, Félix Houphouët-Boigny Peace Prize, Llengfilwr y Lleng Teilyndod, Urdd Teilyngdod Sifil, meddyg anrhydeddus Sefydliad Cysylltiadau Rhyngwladol Cenedlaethol Moscaw, Gwobr Blaidd Efydd, Coler Urdd Siarl III, Philippine Legion of Honor, Urdd Sikatuna, Order of Lakandula, Order of the Golden Heart, Urdd Teilyngdod Dinesig, Lleng Teilyngdod, Urdd San Fihangel a San Siôr, Urdd Siarl III, Urdd Teilyngdod (Chili), Urdd yr Eliffant Gwyn, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Gwobr Urdd y Goron a'r Frenhiniaeth, Maleisia, Nishan-e-Pakistan, Medal Cenhedloedd Unedig, Vietnam Service Medal, Urdd yr Haul, Uwch Urdd Mugunghwa |
Gwefan | http://www.rpdev.org/ |
llofnod | |
Cadfridog a gwleidydd o'r Philipinau oedd Fidel Valdez Ramos (18 Mawrth 1928 – 31 Gorffennaf 2022) a wasanaethodd yn Arlywydd y Philipinau o 1992 i 1998.
Ganed ef yn Lingayen ar ynys Luzon, yn y cyfnod pan oedd y Philipinau dan reolaeth Unol Daleithiau America. Yr oedd yn gyfyrder i Ferdinand Marcos, a fyddai'n cael ei ethol yn arlywydd ym 1965. Cafodd Ramos ei fagu'n Brotestant.[1] Aeth i Academi Filwrol yr Unol Daleithiau yn West Point, Efrog Newydd, ac astudiodd ym Mhrifysgol Illinois. Cychwynnodd ar ei yrfa filwrol wedi i'r Philipinau ennill ei hannibyniaeth, a gwasanaethodd yn y fyddin yn rhyfeloedd Corea a Fietnam.
Penodwyd Ramos yn pennaeth Heddlu'r Philipinau gan yr Arlywydd Marcos ym 1972. Ramos oedd yn gyfrifol am orfodi'r gyfraith yn y wlad wedi i Marcos gyhoeddi rheolaeth filwrol ar 21 Medi 1972, sefyllfa a barodd hyd at Ionawr 1981. Wedi hynny, parhaodd Marcos yn unben, a dyrchafwyd Ramos yn ddirprwy bennaeth staff y lluoedd arfog.
Yn sgil etholiad arlywyddol 1986, a hawliwyd gan Marcos er gwaethaf cyhuddiadau o dwyll ar raddfa eang, Ramos a'r gweinidog amddiffyn Juan Ponce Enrile oedd arweinwyr y garfan filwrol a ddatganodd gefnogaeth i'r ymgeisydd arall, Corazon Aquino. Sbardunwyd chwyldro poblogaidd a yrrai Marcos yn alltud, ac urddwyd Aquino yn arlywydd. Gwasanaethodd Ramos yn bennaeth staff y lluoedd arfog (1986–88) ac yn ysgrifennydd amddiffyn (1988–91) yn llywodraeth Aquino, ac yn y cyfnod hwnnw fe ataliodd sawl ymgais gan gadfridogion i gipio awdurdod.
Etholwyd Ramos i olynu Aquino yn Arlywydd y Philipinau ym Mai 1992. Ymhlith ei weithredoedd oedd i fwrw swyddogion llwgr allan o'r heddlu cenedlaethol, ac i annog cynllunio teulu er mwyn arafu twf y boblogaeth. Llwyddodd ei lywodraeth hefyd i arwyddo cytundebau heddwch â dau grŵp herwfilwrol a fu'n gwrthryfela ers y 1960au, sef Byddin Newydd y Bobl a Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol y Moro (MNLF).
O ran polisi diwydiannol a chyllidol, aeth ati i ryddfrydoli'r economi drwy ddadreoleiddio a thorri'r hen fonopolïau, a cheisiodd wella'r drefn o gasglu treth. Wedi sawl blwyddyn o annhyfiant, dechreuodd economi'r Philipinau adfywio'n gyflym ym 1994, a byddai'r wlad felly yn fwy parod i ymdopi â'r argyfwng ariannol a effeithiodd ar Dde Ddwyrain Asia ym 1997–98. Daeth ei dymor yn y swydd i ben ym Mehefin 1998, ac ildiodd yr arlywyddiaeth i Joseph Estrada.
Priododd ag Amelita Martinez, athrawes, ym 1954, a chawsant bum merch: Angelita, Josephine, Carolina, Christina, a Gloria.[1] Bu farw Fidel V. Ramos ym Makati yn 94 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Adam Easton, "Fidel Ramos obituary", The Guardian (3 Awst 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Chwefror 2023.