Ffynnon Seiriol, Clorach

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ffynnon Seiriol, Clorach.

Mae ffynnon Seiriol wedi'i lleoli ar dir fferm Clorach, ar ochr y ffordd sy'n mynd o Faenaddwyn i Llannerch-y-medd yn Ynys Môn

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y 19eg ganrif roedd y ffynnon yn cael ei defnyddio ar gyfer iachau cleifion. Roedd pobol yn dod at y ffynnon yn hwyr gyda’r nos i gario dŵr ohoni am nad oedd y cleifion digon da i ddod ati. Yn 1833 ysgrifennodd yr hynafiaethydd Cymreig Angharad Llwyd fod y dŵr yn

...held in high estimation and were visited for healing...[1]

Roedd y ffynnon hefyd yn cael ei defnyddio gan gariadon a pharau priod oedd wedi ffraeo ac yn dod ati i gymodi. Mae llawer yn dweud bod yna bodlonrwydd i’w deimlo wrth ddod at y ffynnon hon. Mae rhai yn credu bod yna lefel o ymbelydredd naturiol uwch na’r cyffredin sydd yn y ffynnon.

Roedd trigolion yr ardal yn defnyddio’r ffynnon tan bumdegau’r 20ed ganrif. Daeth dŵr tap i’r ardal a chodwyd caead drosti rhag i anifeiliaid fynd iddi.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Ffynhonnau Cymru - Cyfrol 2 - Ffynhonnau Caernarfon, Dinbych, Y Fflint a Môn (Llyfrau Llafar Gwlad 43)