Ffordd y Llwyni, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Ffordd y Llwyni, Wrecsam
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam Edit this on Wikidata
SirOffa Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.05°N 3°W Edit this on Wikidata
Map

Ffordd hanesyddol yn Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, rhan o ardal gadwraeth a gyda nifer o adeiladau rhestredig, yw Ffordd y Llwyni (Saesneg: Grove Road).

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae Ffordd y Llwyni yn gorwedd i'r gogledd o ganol Wrecsam, yn Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor.

Mae'r stryd yn rhedeg yng nghyfeiriad gogledd-ddwyrain, yn arwain o'r gylchfan fawr ar ffordd gylch fewnol i'r gyffordd gyda Ffordd Caer. Mae'r stryd yn ffurfio estyniad o Ffordd Grosvenor tû hwnt i'r y gylchfan (roedd y ddwy stryd yn cael ei datblygu ar yr un pryd).

Hanes[golygu | golygu cod]

Cynlluniwyd Ffordd y Llwyni rhwng 1861 a 1881 (yr un amser a'r Ffordd Grosvenor) fel cylchoedd preswyl o fri ar gyfer dosbarth canol eginol Wrecsam. Lluniwyd pob adeilad yn bensaernïol unigol. [1]

Dynodwyd Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor gyntaf ar 26 Medi 1990 a'i diwygio ar 6 Gorffennaf 2007.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Cafodd Ffordd y Llwyni ei chynnwys yn Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor oherwydd ei gwerthfawr pensaernïol sylweddol. Mae'r stryd yn un o strydoedd mwyaf pwysig yr ardal gadwraeth.

Mae muriau terfyn o dywodfaen neu frics coch yn ffurfio un o nodweddion cryf Ffordd y Llwyni. Tu ôl y muriau terfyn, mae'r adeiladau'n sefyll yn ôl o'r ffordd, o fewn eu tiroedd eu hunain. Adeiladwyd y tai eu hunain o ddeunyddiau fel gwaith cerrig nadd a therracotta.

Mae ailddatblygiadau o ganol i ddiwedd yr 20fed ganrif wedi tarfu cymeriad hanesyddol Ffordd y Llwyni, yn enwedig ar ei hochr dde-ddwyreinol. Serch hynny, mae nifer o adeiladau rhestredig gradd II yn sefyll o hyd. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Rhif 3 (Plas Gwilym) - Adeiladwyd y tŷ rhwng 1861 ac 1866 ar gyfer S.T Baugh, yn ôl pob tebyg ar ôl cynllun gan JR Gummow. Enw gwreiddiol y tŷ oedd Leeswood House, ond erbyn 1910 roedd ei enw wedi newid i “Plas Gwilym”. [2]
  • Rhif 9 - tŷ preifat gafodd ei adeiladu yn 1881, yn sefyll yn ôl o'r ffordd mewn gardd gaeedig [3]
  • Fern Bank a'r Hen Gerbyty - tŷ preifat gafodd ei adeiladu yn 1873 ar ôl cynllun gan JR Gummow, ar gyfer Mr Ezekiel Mason. Cafodd y tŷ ei ddisgrifio gan JR Gummow fel 'anglo-Italian cottage' [4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cynllun Rheoli ac Asesu Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 11 Mai 2023.
  2. "Plas Gwilym, Rhosddu, Wrexham". Britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 11 Mai 2023.
  3. "NO.9 Grove Road (NW Side), Clwyd, Rhosddu, Wrexham". Britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 11 Mai 2023.
  4. "Fern Bank and former Coach House, Rhosddu, Wrexham". Britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 11 Mai 2023.