Fforchlys yr Alban

Oddi ar Wicipedia
Fforchlys yr Alban
Herbertus borealis
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Herbertaceae
Genws: Herbertus
Rhywogaeth: H. borealis
Enw deuenwol
Herbertus borealis

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Fforchlys yr Alban (enw gwyddonol: Herbertus borealis; enw Saesneg: northern prongwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida. Mae borealis yn cyfeirio at y 'gogledd' o'r Alban, yn ardal Beinn Eighe, fel yr awgryma'r enw Cymraeg.

Nid yw’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru. Mae H. borealis yn gadarn, hyd at 20 cm o daldra, ac mae'n ffurfio matiau helaeth, lliwgar, melynaidd, oren neu frown. Mae ei ddail yn 1.5–2 mm o hyd, yn anghymesur, gyda llabedau dail pigfain miniog sy'n cromlinio'n gryf ac yn rheolaidd i un ochr.[1]

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Fforchlys yr Alban gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 20 Awst 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.