Fforchlys glasol
Fforchlys glasol Metzgeria violacea | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Metzgeriales |
Teulu: | Metzgeriaceae |
Genws: | Metzgeria |
Rhywogaeth: | M. violacea |
Enw deuenwol | |
Metzgeria violacea |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Fforchlys glasol (enw gwyddonol: Metzgeria violacea; enw Saesneg: blueish veilwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Metzgeriales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida. Arferid ei alw'n Metzgeria fruticulosa (Dicks.) A. Evans.
Mae’r rhywogaeth hon yn gyffredin iawn yng Nghymru, yr Alban, Lloegr ac Iwerddon.
Tyf mewn clytiau o thali (unigol: 'thalws) melynwyrdd, 1 mm o led, gyda changhennau bychain sy'n dwyn gemma sy'n sticio allan o'r swbstrad (rhisgl, fel arfer).
Mae Fforchlys glasol yn tyfu'n bennaf ar frigau a changhennau coed collddail, yn enwedig helyg (Salix). Gall hen goed gwernen (Sambucus nigra) a llwyfen ifanc (Ulmus) hefyd gynnal toreth ohono.
Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]
- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.