Ffilm yn Nigeria

Oddi ar Wicipedia
Ffilm yn Nigeria
Set ffilm yn Lagos, prifddinas Nigeria.
Enghraifft o'r canlynolbyd ffilmiau yn ôl gwlad neu ranbarth Edit this on Wikidata
LleoliadNigeria Edit this on Wikidata
GwladwriaethNigeria Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae gan Nigeria y diwydiant ffilm cenedlaethol mwyaf o holl wledydd Affrica. Gwneir y nifer fwyaf o ffilmiau Nigeriaidd yn yr iaith Saesneg, iaith gyffredin y wlad, ond cynhyrchir hefyd lluniau yn Iorwba, Hawsa, ac Igbo, ac weithiau ieithoedd brodorol eraill. Yn gyffredinol, rhennir hanes ffilm yn Nigeria yn bedwar cyfnod: yr oes drefedigaethol (cyn y 1960au), yr oes euraid (1960au–1980au), oes y fideo (1990au–2000au), a Sinema Newydd Nigeria (ers y 2000au).[1] Gelwir diwydiant ffilm Nigeria yn aml yn "Nollywood", cyfansoddair cywasgedig o Nigeria ac Hollywood, er bod rhai yn Nigeria yn gwrthod yr enw hwnnw.

Yr oes drefedigaethol[golygu | golygu cod]

Dygwyd cyfrwng ffilm i Nigeria yn gyntaf yn niwedd y 19g, ar ffurf y cinetosgop, dyfais a chanddi dwll ysbïo i wylio lluniau symudol.[2] Cafodd ei ddisodli yn nechrau'r 20g gan dechnoleg taflunio, a chafodd y set gyntaf o ffilmiau ar y sgrin fawr eu harddangos i gynulleidfaoedd yn Neuadd Goffa Glover yn Lagos o 12 i 22 Awst 1903.[1][3] Y llun mawr cynharaf a wneuthurwyd yn Nigeria yw Palaver (1926), ffilm fud 108 munud o hyd a gyfarwyddwyd gan y Sais Geoffrey Barkas, a oedd hefyd yn y ffilm gyntaf i gynnwys actorion Nigeriaidd mewn rhannau sylweddol.[4][5] Erbyn 1954, y "sinema symudol" oedd prif gyfrwng ffilm yn Nigeria, a bu faniau yn arddangos ffilmiau i o leiaf 3.5 miliwn o bobl ar draws y wlad. Yn ogystal, cynhyrchwyd lluniau gan Uned Ffilm Nigeria i'w harddangos yn rhad ac am ddim mewn 44 o dai sinema. Ym 1957 cyhoeddwyd Fincho, a gyfarwyddwyd gan Sam Zebba, y ffilm gyntaf a chafodd ei hawlfreinio'n gyfan gwbl i Uned Ffilm Nigeria, ac hefyd y ffilm liw gyntaf o Nigeria.[6]

Yr oes euraid[golygu | golygu cod]

Yn sgil annibyniaeth Nigeria ar Brydain ym 1960, chwyddodd diwydiant sinema'r wlad yn gyflym, a sefydlwyd nifer o ddarlundai newydd.[7] O ganlyniad, trodd nifer o theatrau yn sinemâu yn niwedd y 1960au a'r 1970au, yn enwedig yng Ngorllewin Nigeria, wrth i actorion, dramodwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr drawsnewid o'r hen lwyfan i'r sgrin fawr, yn eu plith Hubert Ogunde a Moses Olaiya.[8][9] Ym 1972 cyhoeddwyd y Gorchymyn Brodori gan Yakubu Gowon, pennaeth y wladwriaeth, a orfodai oddeutu 300 o sinemâu i drosglwyddo o'u perchenogion estron i ddinasyddion Nigeriaidd, gan arwain at fwy o gynrychiolaeth gan Nigeriaid ym myd ffilm.[10] Cyfrannai'r ymchwydd olew yn y 1970au hefyd at dwf diwylliant y sinema yn Nigeria, gan gynyddu gallu prynu'r cyhoedd a rhoi ddigon o incwm i'r bobl wario ar fynychu'r sinema a chael setiau teledu yn y cartref.[8] Wedi cyfnod o lwyddiant gweddol gan ffilmiau Nigeriaidd yn y swyddfa docynnau, Papa Ajasco (1984) gan Wale Adenuga fyddai'r llun ysgubol gyntaf yn nhermau ariannol, gan ennill elw gros o ₦61,000 (tua 2015 ₦21,552,673) ymhen tridiau. Flwyddyn yn ddiweddarach, aeth Mosebolatan (1985) gan Moses Olaiya ati i wneud elw gros o ₦107,000 (tua 2015 ₦44,180,499) mewn pum niwrnod.[11]

Oes y fideo[golygu | golygu cod]

Wedi diwedd yr oes euraid, cafodd y diwydiant ffilm yn Nigeria hwb yn y 1990au ar sail llwyddiant y farchnad fideos. Câi'r ffasiwn hon ei holrhain gan amlaf yn ôl i boblogrwydd Living in Bondage (1992), drama gyffro Igbo a gyhoeddwyd yn syth i fideo. Cyrhaeddodd y diwydiant syth-i-fideo ei anterth yng nghanol y 2000au, gan ddyrchafu Nigeria i'r ail safle ar y rhestr o ddiwydiannau ffilm mwyaf y byd yn nhermau'r nifer o gynyrchiadau blynyddol, y tu ôl i India ac o flaen Unol Daleithiau America..[12] Enillodd lluniau Nigeriaidd le blaenllaw ar sgriniau ar draws Affrica, ac hefyd yn y Caribî ac ymhlith yr Affricanwyr ar wasgar.[13] Cafodd ffilm Nigeria ddylanwad pwysig ar ddiwylliant Affrica oll[14] a daeth enwau actorion Nigeriaidd yn gyfarwydd ar draws y cyfandir. Arweiniodd yr ymchwydd hefyd at adlach yn erbyn y ffilmiau mewn sawl gwlad, gan beri rhai i boeni am oruchafiaeth Nollywood a elwid "Nigerialeiddio Affrica".[15][16]

Sinema Newydd Nigeria[golygu | golygu cod]

Dirywiodd y farchnad fideos erbyn diwedd y 2000au, ond erbyn hynny cychwynnodd oes newydd yn ffilm Nigeria gyda phwyslais ar safon, nid nifer, a chynyrchiadau proffesiynol. Câi'r ffilm ddirgelwch The Figurine (2009), yn Saesneg ac Iorwba, ei hystyried yn drobwynt yn niwydiant ffilm cyfoes Nigeria. Sbardunwyd adfywiad yn niwylliant tai sinema'r wlad gan y don sinematig hon, a elwir "Sinema Newydd Nigeria".[1][17] Yn 2013, Nigeria oedd y diwydiant ffilm trydydd gwerthfawrocaf yn y byd ar sail ei refeniw.[18]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Emeagwali, Gloria (Spring 2004). "Editorial: Nigerian Film Industry". Central Connecticut State University. Africa Update Vol. XI, Issue 2. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 November 2009. Cyrchwyd 16 July 2014.
  2. "X-raying Nigerian Entertainment Industry At 49". Modern Ghana. 30 September 2009. Cyrchwyd 13 April 2015.
  3. Olubomehin, Oladipo O. (2012). "CINEMA BUSINESS IN LAGOS, NIGERIA SINCE 1903". Historical Research Letter 3. ISSN 2224-3178.
  4. Ekenyerengozi, Michael Chima (21 May 2014). "Recognizing Nigeria's Earliest Movie Stars - Dawiya, King of the Sura and Yilkuba, the Witch Doctor". IndieWire. Shadow and Act. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 May 2014. Cyrchwyd 13 April 2015.
  5. "PALAVER: A ROMANCE OF NORTHERN NIGERIA". Colonial Film. Cyrchwyd 13 April 2015.
  6. "Lights, Camera, Africa!!!". Goethe Institute. Cyrchwyd 24 August 2015.
  7. Olubomehin, Oladipo O. (2012). "CINEMA BUSINESS IN LAGOS, NIGERIA SINCE 1903". Historical Research Letter 3. ISSN 2225-0964.
  8. 8.0 8.1 "History of Nollywood". Nificon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 September 2013. Cyrchwyd 15 October 2014.
  9. Adegbola, Tunde (2011). "Coming of Age in Nigerian Moviemaking". African Film Festival Inc. New York. Cyrchwyd 7 April 2015.
  10. Obiaya, Ikechukwu. "The Blossoming of the Nigerian Video Film Industry". Academia. Cyrchwyd 7 April 2015.
  11. Olubomehin, Oladipo O. (2012). "CINEMA BUSINESS IN LAGOS, NIGERIA SINCE 1903". Historical Research Letter 3. ISSN 2224-3178.
  12. "Nigeria surpasses Hollywood as world's second largest film producer – UN". United Nations. 5 May 2009. Cyrchwyd 26 March 2013.
  13. "Nollywood: Lights, camera, Africa". The Economist. 16 December 2010. Cyrchwyd 20 February 2015.
  14. Onikeku, Qudus. "Nollywood: The Influence of the Nigerian Movie Industry on African Culture". Academia. Cyrchwyd 12 February 2015.
  15. Onuzulike, Uchenna (2007). "Nollywood: The Influence of the Nigerian Movie Industry on African Culture". Nollywood Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 January 2014. Cyrchwyd 12 February 2014.
  16. ""Nollywood": What's in a Name?". Nigeria Village Square. 3 July 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 March 2021. Cyrchwyd 20 February 2015.
  17. "Nigerian films try to move upmarket: Nollywood's new scoreboard". The Economist. 17 July 2014. Cyrchwyd 20 March 2015.
  18. Brown, Funke Osae (24 Rhagfyr 2013). "Nollywood improves quality, leaps to N1.72trn revenue in 2013". Business Day Newspaper. Business Day Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2014.