Igbo
Gwedd
Pwnc yr erthygl hon yw'r iaith. Am y grŵp ethnig, gweler Igboaid.
| Enghraifft o: | iaith, iaith fyw |
|---|---|
| Math | Igboid |
![]() | |
| Enw brodorol | Asụsụ Igbo |
| Nifer y siaradwyr | |
| cod ISO 639-1 | ig |
| cod ISO 639-2 | ibo |
| cod ISO 639-3 | ibo |
| System ysgrifennu | Igbo alphabet, Igbo Braille, Akagu |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0dtm1 |
Iaith yn nheulu ieithoedd Niger-Congo ac iaith frodorol yr Igboaid yn ne-ddwyrain Nigeria yw Igbo. Rhan o glwstwr yr ieithoedd Igboid ydyw, yng nghangen yr ieithoedd Volta-Niger. Mae rhai ieithyddion yn ystyried yr ieithoedd Igboid i gyd yn dafodieithoedd neu'n amrywiadau ar Igbo.
Ysgrifennir Igbo yn yr wyddor Ladin, a gyflwynwyd yng nghyfnod yr Ymerodraeth Brydeinig.
Yn nechrau'r 20g, ceisiwyd datblygu ffurf artiffisial ar Igbo ar sail pedair tafodiaith. Yn ddiweddarach datblygwyd safon lenyddol ar sail tafodieithoedd Owerri ac Umuahia.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL Global, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, OL20243680W, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/, adalwyd 23 Ebrill 2022
- ↑ (Saesneg) Igboid languages. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Awst 2018.
