Ffatrïoedd Arfau'r Goron

Oddi ar Wicipedia

Roedd Ffatrïoedd Arfau'r Goron (neu Ffatrïoedd Ordnans Brenhinol; Saesneg: Royal Ordnance Factories; ROFs) yn rhwydwaith o ffatrïoedd arfau a ffrwydron a grëwyd gan lywodraeth y DU ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd. Fe'u gweinyddwyd gyntaf gan y Weinyddiaeth Gyflenwi (Ministry of Supply), ac yn ddiweddarach gan y Weinyddiaeth Amddiffyn (Ministry of Defence), cyn cael eu preifateiddio yn 1987.

Adeiladwyd dros ddeugain o'r ffatrïoedd. Roedd mwyafrif y rhain wedi'i lleoli mewn ardaloedd yng ngorllewin a gogledd y DU, i leihau'r perygl o ymosodiad bombio o dir mawr Ewrop. Roedd saith ffatri ROF yng Nghymru: