Ffatri Arfau'r Goron Caerdydd

Oddi ar Wicipedia

Cyfesurynnau: 51°31′28″N 3°11′57″W / 51.524477°N 3.1992058°W / 51.524477; -3.1992058


Un o Ffatrïoedd Arfau'r Goron oedd Ffatri Arfau'r Goron Caerdydd (neu Ffatri Ordnans Brenhinol Caerdydd; Saesneg: ROF Cardiff). Fe'i agorwyd yn Llanisien, Caerdydd, ym 1940 ar gyfer adeiladu gynnau mawr ac arfau eraill yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.[1] Roedd dros 20,000 o bobl yn gweithio yno. Yn 1960, daeth yn rhan o'r Sefydliad Arfau Atomig (Atomic Weapons Establishment), a gwnaeth y ffatri gydrannau ar gyfer rhaglen arfau niwclear y DU. Daeth yr holl gynhyrchu i ben yn y ffatri ym mis Chwefror 1997. Cafodd y safle ei ddymchwel wedyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Cardiff Royal Ordnance Factory, Llanishen, Cardiff; Gwefan Coflein; adalwyd 26 Mehefin 2018