ROF Pen-bre

Oddi ar Wicipedia
ROF Pen-bre
MathFfatrïoedd Arfau'r Goron Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.679°N 4.293°W Edit this on Wikidata
Map

Adeiladwyd ffatri ffrwydron, a oedd yn ddiweddarach yn cael ei hadnabod fel NEF Pembrey, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, wrth ymyl y llandref a adwaenir fel Penbre, Sir Gaerfyrddin, Cymru. Awdurdodwyd hi gan Lywodraeth Prydain. Adeiladwyd y ffatri ar safle wedi'i chyfansoddi o darenni a brynnau tywod er mwyn darparu rhyw achlesiant yn erbyn niwed a achosir gan ffrwydron. TNT oedd ei phrif-gynnyrch. Defnyddiwyd yr un safle yn Rhyfel Byd II i adeiladu ffatri ffrwydron arall o'r enw ROF Pembrey, neu Ffatri Gyflegraeth Frenhinol Pen-bre yn Gymraeg.

Megis pob ffatri ffrwydron, roedd angen cael cyflenwad cyson o ddwr a dolennau trafnidiaeth da. Cysylltid y safle i'r Great Western Railway ym Mhen-bre