Ffasiwn yng Nghymru
Y dillad, gwisg, a ffasiynau hanesyddol a modern yng Nghymru yw ffasiwn Cymru.
Gwisg draddodiadol
[golygu | golygu cod]Mae'r ddelwedd boblogaidd o wisg draddodiadol i ferched Cymru yn seiliedig ar ddylanwadau'r 19g. Does dim llawer o dystiolaeth sydd wedi goroesi am wisg draddodiadol Cymru cyn 1770, cyn i ymwelwyr ddod i Gymru a recordio’r wisg. O’r ffynonellau cynradd ac o’r wisg sydd wedi goroesi, mae’n hawdd disgrifio elfennau o’r wisg draddodiadol i fenywod. Y nodwedd fwyaf nodedig oedd yr het uchel du a’r betgwn. Roedd y wisg hefyd yn cynnwys siôl a oedd wedi ei wneud allan o wlân a fewn amrywiaeth o lywiau, ffedog a fichu.[1]
Yn anffodus, roedd gwisg draddodiadol dynion yn anaml wedi eu hysgrifen amdano, neu eu harlunio. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod eu gwisg yn syml iawn i’r wisg dynion a wisgwyd yn Lloegr. Roedd y wisg yn cynnwys gwasgod, siaced wlân, hances a wisgwyd o gwmpas y gwddf, a het felt wahanol i’r un a wisgwyd gan y menywod.[1]
Er gwaethaf ymdrechion i "adfer" cilt Cymreig, yn debyg i giltiau'r gwledydd Celtaidd eraill, nid oes tystiolaeth o giltiau hanesyddol gan y Cymry.[2]
Rhwng 1840 a 1870 roedd y siôl yn gyfwisg ffasiynol iawn yng Nghymru, yn enwedig o batrwm Paisley. Traddodiad Cymreig yw i gario babanod mewn siôl.[2]
Ffasiwn modern
[golygu | golygu cod]Heb os nac oni bai, Laura Ashley (1925–1986) o Ferthyr Tudful yw’r dylunydd ffasiwn enwocaf o Gymru. Dyluniodd ddillad o arddull y cefn gwlad yn seiliedig ar ddyluniadau’r 19g, gan gynnwys hen bapur wal. Daeth ei gwaith yn boblogaidd iawn yn y 1970au, ac erbyn 1981 roedd yna 5000 o’i siopau o gwmpas y byd. Yn dilyn ei marwolaeth, dioddefodd ei chwmni rhwyfaint a chaeodd pum ffatri yng Nghymru. Yn ddiweddar, mae busnes dodrefn y cwmni wedi ffynnu.
Sefydlodd Jeff Banks (g. 1943) y siop gadwyn Warehouse a’r cwmni archebu drwy’r post Warehouse Utility Clothing Company. Cyflwynodd The Clothes Show, y rhaglen deledu ffasiwn poblogaidd gyntaf ym Mhrydain. Dyluniodd David Emanuel (g. 1952) a'i wraig Elizabeth wisg briodas y Fonesig Diana Spencer ym 1981.
Y dylunydd mwyaf llwyddiannus sy’n gweithio heddiw yw Julien MacDonald (g. 1972) o Ferthyr Tudful. Mae wedi gweithio i nifer o ddylunwyr mawr gan gynnwys Alexander McQueen a Karl Lagerfeld, ac yn ddylunydd gweuwaith i Chanel. Enillodd wobr Dylunydd Glamour y Flwyddyn yng Ngwobrau Ffasiwn Prydain yn 2001, a phenodwyd yn ddylunydd artistig House of Givenchy.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Welsh Costume: Men's clothes". Peoples Collection Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-10.
- ↑ 2.0 2.1 Y Wisg Gymreig. Amgueddfa Cymru. Adalwyd ar 27 Hydref 2015.