Neidio i'r cynnwys

Féile na Gealaí

Oddi ar Wicipedia
Féile na Gealaí
Enghraifft o'r canlynolgŵyl gerddoriaeth Edit this on Wikidata
IaithGwyddeleg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2016 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth roc, hip hop, canu gwerin Edit this on Wikidata
LleoliadRáth Chairn Edit this on Wikidata
GwladwriaethIwerddon
RhanbarthGaeltacht Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://feilenagealai.com/ Edit this on Wikidata
Map o'r Gaeltachtau ar draws Iwerddon, gweler mai Gaeltacht an Mhí, lle cynhelir y Féile yw'r un lleiaf ond mwyaf canolog yn genedlaethol ac at ardaloedd poblog yr ynys

Sefydlwyd Féile na Gealaí (Gwyddeleg am "Gŵyl y Lleuad") yn 2016 a phrif amcan y trefnwyr oedd darparu gŵyl wersylla cyfrwng Gwyddeleg i siaradwyr yr iaith Wyddeleg er mwyn hybu cerddoriaeth, diwylliant a’r holl gelfyddydau Gwyddeleg mewn ffordd newydd ac arloesol. Fe'i cynhelir yn flynyddol ym mhentref Gaeltacht Ráth Chairn Swydd an Mhí sydd oddeutu 55km o'r brifddinas, Dulyn.[1]

Ymysg y perfformwyr mae cerddorion cyfoes sy'n canu caneuon pop a rap. Efallai mae'r enw fwyaf adnabyddus i Gymry yw'r grŵp rap gwleidyddol o ddinas Belffast, Kneecap.[2]

Cyswllt â siaradwyr Gaeleg yr Alban

[golygu | golygu cod]
Logo Foras na Gaeilge, un o noddwyr yr ŵyl

Yn ogystal â hynny eu hamcan hefyd oedd creu cyswllt â grwpiau, pobl ac artistiaid sy’n siarad Gaeleg yn rhugl ac sy’n fodlon cymryd rhan yn nigwyddiadau’r ŵyl. Mae'r Wyddeleg a'r Gaeleg yn rhan o gangen Goideleg yr ieithoedd Celtaidd ac yn agosach na'r Gymraeg a'r Llydaweg gan iddynt ymrannu'n hwyrach. Rhai o’r artistiaid o'r Alban a gymerodd rhan yn yr ŵyl yw; Niteworks, Griogair Labhruidh, Sian, Trail West a Whyte. Mae’r gynulleidfa Wyddelig yn dangos diddordeb aruthrol yn y cyfuniad o ganu electronig a ganu sean-nós gan Niteworks er enghraifft. Nid oes gŵyl gyfan gwbwl Aeleg ei hiaith yn yr Alban ar hyn o bryd ac mae siaradwyr Gaeleg yn mwynhau Féile na Gealaí yn fawr.[1]

Un o brif noddwyd yr Ŵyl yw Colmcille. Mae Colmcille yn rhaglen bartneriaeth rhwng Foras na Gaeilge (Iwerddon) a Bòrd na Gàidhlig (Yr Alban), sy’n hyrwyddo’r defnydd o Wyddeleg a Gaeleg yn Iwerddon a’r Alban a rhwng y ddwy wlad. Nod Colmcille trwy ei waith yw meithrin dealltwriaeth o brofiadau a diwylliant amrywiol y cymunedau Gwyddeleg a Gaeleg ac annog trafodaeth ar bryderon cyffredin mewn materion cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd gyda golwg ar feithrin hunanhyder o fewn y cymunedau Gaeleg eu hiaith. Arwyddair y mudiad yw Éirinn is Alba (Iwerddon a'r Alban).[3]

Cynhelir yr ŵyl dros gyfnod o dri diwrnod ym mis Gorffennaf. Mae yna faes gwersylla wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer teuluoedd â phlant ifanc a darperir amrywiaeth eang o weithgareddau ar gyfer y grŵp oedran hwnnw. Féile na Gealaí yw’r unig ŵyl wersylla cyfrwng Gwyddeleg yn Iwerddon ar hyn o bryd.

O ran cynnwys yr ŵyl, mae wedi’i anelu’n bennaf at gerddoriaeth gyfoes Iwerddon a’r Alban. Hefyd yn rhan o raglen yr ŵyl mae gweithdai barddoniaeth, yoga, dawns, Gwyddeleg a Gaeleg a gweithdai canu Gwyddeleg a Gaeleg.[1]

Mae’r ŵyl yn tyfu mewn poblogrwydd bob blwyddyn ers ei sefydlu ac mae’r ŵyl wedi ennill gwobr Gŵyl y Flwyddyn yn 2017 a 2018. Mae’r clod hwn yn cael ei ddyfarnu gan y cylchgrawn diwylliant Nós ar sail pleidlais gyhoeddus.

Mae’r ŵyl hon yn enghraifft o’r gwaith da sy’n mynd rhagddo i feithrin partneriaeth â siaradwyr Gaeleg o'r Alban ac i ddarparu llwyfan i gerddoriaeth gyfoes Aeleg a Gwyddeleg.[1]

Ceir nawdd gan asiantaethau a mudiadau Gwyddelig megis Foras na Gaeilge, Raidio Rí-Rá (radio pobl ifanc), RTÉ Raidió na Gaeltachta, Údarás na Gaeltachta, TG4 ('S4C' Iwerddon), a Conradh na Gaeilge ac eraill.[4]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Mac Ruirí, Aodh (15 Mai 2020). "Féile na Gealaí". Gwefan Colmcille.
  2. "KNEECAP at Féile na Gealaí". Sianel Youtube rhaglen 'Bloc' ar TG4. 18 Mehefin 2018.
  3. "About". Gwefan Colmcille. Cyrchwyd 5 Mai 2024.
  4. "Míle buíochas lenár n-urraitheoirí". Gwefan FnaG. 2021.
Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.