Evan Owen (Allen)
Evan Owen | |
---|---|
Ffugenw | Allen |
Ganwyd | 1805 Llanrwst |
Bu farw | 18 Rhagfyr 1852 Rhuthun |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, bardd |
Roedd Evan Owen (Allen) (1805 - 18 Rhagfyr, 1852) yn llenor a bardd a anwyd ar fferm Pantyllin, trefgordd Garthgyfanedd, Llanrwst, yn fab i William Owen, codwr canu Capel y Bedyddwyr yn Llanrwst a ffarmwr gweddol gefnog a Catherine ei wraig. (Mae Eminent Welshmen [1] a'r Bywgraffiadur [2] yn awgrymu mae Allen oedd cyfenw'r bardd, ond mae nodyn cyfredol am ei farwolaeth yn Y Greal yn dystiolaeth glir mae enw barddol gŵr o'r enw bedydd Evan Owen yw Allen, sef A Llên nid Alen [3] ) Fel ei dad roedd Allen yn gerddor medrus ac yn arwain y gan mewn gwasanaethau a gynhaliwyd gan y Bedyddwyr mewn annedd dŷ o'r enw Tan y Bryn yn Llanddoged.[4]
Ym 1826 priododd Allen ac Elizabeth Edwards o Eglwysbach [5]. Bu iddynt 3 Mab a 7 merch. Yn fuan ar ôl priodi symudodd i Lanfwrog, ger Rhuthun gan weithio fel arwerthwr.[6]
Fel awdur rhyddiaith bu Allen yn cyfrannu erthyglau'n aml i gylchgrawn Seren Gomer a chylchgronau eraill. Gadawodd lawer iawn o farddoniaeth mewn llawysgrif ar ei ôl ar adeg ei farwolaeth ond ychydig ohonynt cafodd ei gadw mewn print. Dyma blas ar un o'i gerddi:[7]
“ |
|
” |
Bu farw yn Rhuthun yn 47 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yn Llanfwrog, yn y fynwent ynghlwm wrth gapel y Bedyddwyr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Roberts, Thomas Rowland; Eminent Welshmen a short biographical dictionary of Welshmen who have attained distinction from the earliest times to the present; Caerdydd 1908
- ↑ ALLEN, EVAN OWEN (1805 - 1852), llenor, Y Bywgraffiadur Adferwyd 6 Chw 2020
- ↑ "Marwgoffa" Y Greal Rhif. 15 Mawrth 1853 tud. 70 adalwyd 6 Chwefror 2020
- ↑ John Edwards, Fy Nghylch Bywyd. Y Geninen cylchgrawn cenedlaethol; Cyf. XIV rhif. 2 - Ebrill 1896 adalwyd 6 Chwefror 2020
- ↑ Gwasanaethau Archifau Cymru Cofrestr Gostegion Priodas Eglwysbach, Sir Ddinbych, cofnod rhif 128; 31 Rhagfyr 1826
- ↑ Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1851 ar gyfer Murog Street, Rhuthun. Cyfeirnod HO107/2504, ffolio 169 tudalen 6
- ↑ "DAU BENILL RHY DEBYG - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1870-05-21. Cyrchwyd 2020-02-06.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |