Evan Isaac

Oddi ar Wicipedia
Evan Isaac
Ganwyd18 Mehefin 1865 Edit this on Wikidata
Bu farw16 Rhagfyr 1938 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Gweinidog ac awdur oedd Evan Isaac (18 Mehefin 1865 - 16 Rhagfyr 1938). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur y llyfr Coelion Cymru, sy'n ffynhonnell werthfawr ar gyfer astudio llên gwerin Cymru.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Evan Isaac yn Nhre Taliesin yng ngogledd Ceredigion. Gadawodd yr ysgol yn ddeg oed, a bu'n gweithio mewn gwaith mwyn lleol cyn mynd i dde Cymru i weithio fel glowr. Dechreuodd bregethu pan oedd yn löwr yn Aberpennar. Daeth yn weinidog Wesleaidd yn 1888, cyn astudio yng Ngholeg Handsworth, Birmingham, am dair blynedd. Bu'n weinidog cryn nifer o leoedd yng nghanolbarth a de Cymru. Dychwelodd i Dre Taliesin ar ôl ymddeol.[1]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Prif Emynwyr Cymru (1925)
  • Humphrey Jones a Diwygiad 59 (1930)
  • Yr Hen Gyrnol (1934)
  • Coelion Cymru (1938)[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
  2. Isaac, Evan (1938). Coelion Cymru . Aberystwyth: Gwasg Aberystwyth.