Neidio i'r cynnwys

Erydiad

Oddi ar Wicipedia
Erydiad
Mathffenomen naturiol, proses natur, dilead Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Erydiad mewn cae ger Prifysgol Talaith Washington

Proses morffolegol yw erydiad. Mae'n byloriant cerrig a symudiad mwd neu tywod trwy proses ffisegol, cemegol neu biolegol. Mae'r gwynt, dŵr (e.e. glaw neu afonnydd), rhewlifau neu disgyrchiant yn symud y gwaddod sy'n ffurfio yn ystod erydiad.

Prosesau ffisegol

[golygu | golygu cod]

Mae'n bosib fod dŵr sy'n rhewi yn achosi erydiad achos fod y dŵr yn casglu mewn wagle tir neu gerrig ac yn ehangu yn ystod rhewi a felly yn achosi crac. Proses felly yw crisialiad halen.

Mae'r hinsawdd yn achosi erydiad, hefyd. Yn ystod y dydd mae'r cerrig yn boeth a felly yn ehangu. Pryd maen nhw yn oeri yn sydyn mae'n bosib fod y cerrig yn cracio. A mae'r gwynt yn achosi erydiad wyneb y cerrig neu y ddaear.

Achos arall erydiad yw dŵr sy'n llifo: afonnydd, tonnau y môr a rhewlifau.

Mae'n bosib fod daeargryn yn achos erydiad trwy achosi crac mewn cerrig.

Prosesau cemegol

[golygu | golygu cod]

Mae'n bosib fod gwanediad yn achosi erydiad. Er enghraifft, mae'n bosib fod dŵr yn achosi gwanediad halen a felly yn achosi gwagle sy'n cwympo o'r diwedd. Mae gwanediad yn achosi carst, hefyd.

Mae ocsidiaid yn achosi craciau a felly erydiad hefyd, er enghraifft gyda cerrig sy'n cynnwys haearn neu manganîs.

Prosesau biolegol

[golygu | golygu cod]

Mae gwreiddiau planhigion yn achosi craciau a felly achosi erydiad. A mae'n bosib fod baw anifeiliaid yn achosi proses cemegol mewn cerrig.

Canlyniadau i'r amgylchedd

[golygu | golygu cod]

Problem mawrach yw erydiad tir caeau trwy gwynt neu glaw. Achos fod tir gyda llawer o maetholynnau yn diflannu o achos erydiad, mae hynny yn achosi problemau i'r ffermwyr. Mae coedwig yn cryfaf yn erbyn erydiad: mae gwreiddiau'r coed yn gafael ar tir a mae'r coed yn cadw'r tir o wynt a glaw. Felly mae cwympiad coed yn goryrru erydiad, er enghraifft yn fforestydd law mewn ardaloedd trofannol.

Erydiad y twyni ar draeth Talacre (fideo)

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]