Carst

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mynyddoedd carst yn rhanbarth Guilin (Kweilin), de Tsieina

Topograffi nodedig lle mae'r dirwedd wedi ei ffurfio o ganlyniad i ddŵr yn ymdoddi ar greigwely carbonad (gan amlaf calchfaen) yw carst (Saesneg: Karst). Daw’r gair "carst" o enw'r ardal lle cafodd yr ymchwil gwyddonol cyntaf ar dopograffi carst ei gynnal gan y daearyddwr Jovan Cvijić (1865–1927) mewn ardal yn Slofenia sy'n ymestyn yn raddol i'r Eidal o’r enw Kras (Karst mewn Almaeneg). Mae gwreiddyn Indo-Ewropeaidd i'r gair sef, o karra sy’n golygu “carreg” (yr un gwreiddyn sydd i'r gair Cymraeg). Mae'r gair Carst felly yn disgrifio'r tirffurfiau ymdoddiadol mewn ardal o galchfaen lle mae erydu wedi creu agennau, llync-dyllau, nentydd tanddaearol a cheudyllau.

Tirffurfiau carst yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Creigiau gwaddodol sy’n cynnwys llawer o uniadau a holltau ac a luniwyd o galsiwm carbonad yw calchfeini Cymru. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o greigiau, maent yn hydawdd mewn dŵr glaw sy’n llawn carbon deuocsid ar ôl ei daith drwy’r atmosffer. Mae hydoddedd wedi’i gyfuno ag athreiddedd (permeability) ar hyd yr uniadau a’r planau gwelyo yn golygu bod dŵr sydd ychydig yn asidig, yn hytrach na llifo mewn nentydd ar hyd yr arwyneb yn disgyn yn gyflym trwy uniadau ac ar hyd planau gwelyo. Ar ei daith bydd y dŵr yn ymdoddi’r calchfaen ac yn helaethu’r sianelau gan alluogi dŵr i fynd ar eu hyd. Mae agennau (fissures) a cheudyllau (potholes) yn cael eu ffurfio yn y modd hwn a byddant efallai yn ddigon mawr i allu cludo’r holl ddŵr a fydd fel arfer yn llifo ar yr wyneb. Felly, yr hyn sy’n nodweddu ardaloedd calchfaen yw diffyg draeniad arwyneb a nentydd yn diflannu i agennau neu lync-dyllau. Bydd modd i nentydd sydd wedi diflannu ymddangos ar waelod llethr serth, yn enwedig ar ochr prif ddyffrynnoedd sydd wedi endorri o dan y lefel trwythiad. Enghraifft dda o hyn yng Nghymru yw ymdarddiad nant o geg yr ogofâu yn Dan yr Ogof wrth ymyl Craig-y-nos. Fe elwir enghreifftiau o’r fath yn darddell Vaucluse, ar ôl yr enwog Fontaine de Vaucluse yn ne Ffrainc.

Mae pentir nodedig Penygogarth yn Llandudno yn dirnod cyfarwydd ac yn enghraifft nodweddiadol o dirwedd galchfaen. Mae’r tirffurf hwn wedi datblygu o Galchfaen Carbonifferaidd haenedig. Mae’r diffyg dŵr arwyneb, brigiad o graig noeth o dan orchudd pridd tenau a dibynnau serth yn nodweddiadol o dirffurfiau carst. Mae Mynydd Eglwyseg yn Llangollen yn darren Galchfaen Carbonifferaidd.

Yn Ne Cymru, mae’r amlygiad llydan o Galchfaen Carbonifferaidd i’r gogledd o’r maes glo yn darparu amrywiaeth cyfareddol o ffurfiau calchfaen. Am 30 milltir o Ddyffryn Twrch yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin trwy Gwm Tawe i flaen-nentydd Afon Nedd a thua’r dwyrain i Florens, mae’r ardal yn llawn o lync-dyllau bach, canolig a mawr. Mae’r pantiau crwn yn dynodi safleoedd lle mae cwymp yn nhoeau'r ceudyllau tanddaearol. Tua 15,000 erw yw cyfanswm yr ardal yr effeithir arni gan lync-dyllau.

Ar hyd arfordir deheuol Gŵyr, mae Calchfaen Carbonifferaidd yn amlwg mewn clogwyni ysblennydd. Mae’r creigiau hyn ymhlith rhai o olygfeydd gorau arfordir Cymru. Mae’r strata ar oleddf serth o’r môr ac wedi’u torri’n gildraethau a phentiroedd. Mae’r cildraethau bach wedi erydu ar hyd uniadau neu linellau gwan o fewn y strata ac mae nifer helaeth o ogofâu môr wedi cael eu cloddio o wyneb y clogwyn.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Howe, G. M., a Thomas, J. M. (1963) Welsh landforms and scenery. Llundain, Macmillan.
  • Jennings, J. N. (1985) Karst geomorphology. Rhydychen, Blackwell.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Carst ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.