Eric Carle

Oddi ar Wicipedia
Eric Carle
Eric Carle yng Ngŵyl Lyfrau'r Los Angeles Times (2009).
Ganwyd25 Mehefin 1929 Edit this on Wikidata
Syracuse, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mai 2021 Edit this on Wikidata
o methiant yr arennau Edit this on Wikidata
Northampton, Massachusetts Edit this on Wikidata
Man preswylKey West, Florida Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, yr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • State Academy of Fine Arts Stuttgart
  • Leibniz-Gymnasium
  • Academi'r Celfyddydau Cain, Fiena Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, darlunydd, awdur plant Edit this on Wikidata
Blodeuodd2003 Edit this on Wikidata
Adnabyddus amY Lindysyn Llwglyd Iawn, The Grouchy Ladybug, Brown Bear, Brown Bear, What Do You See?, The Very Busy Spider Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Urdd Teilyngdod Baden-Württemberg, Gwobr Etifeddiaeth Llenyddiaeth Plant, Medal Regina Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.eric-carle.com Edit this on Wikidata

Darlunydd Americanaidd ac awdur llyfrau i blant oedd Eric Carle, Jr. (25 Mehefin 192923 Mai 2021) sydd yn nodedig am ei lyfr lluniau Y Lindysyn Llwglyd Iawn (1969).

Ganed yn Syracuse, Efrog Newydd, Unol Daleithiau America, yn fab i'r mewnfudwyr Almaenig Erich Carle a'i wraig Johanna (Öelschlager gynt). Gweithiodd ei dad mewn ffatri yn chwistrell-baentio peiriannau golchi, a gweithiodd ei fam mewn busnes teuluol. Pan oedd Eric yn 6 oed, symudodd y teulu i Stuttgart am fod Johanna yn hiraethu am ei dinas enedigol hi. Yno, pan oedd yr Almaen dan reolaeth y Natsïaid, cafodd Erich ei alw i'r fyddin, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd ei gipio'n garcharor gan yr Undeb Sofietaidd. Roedd Eric yn rhy ifanc i ymladd yn y rhyfel, ond yn 15 oed cafodd ei alw gan y llywodraeth i gloddio ffosydd ar hyd Linell Siegfried.[1]

Wedi'r rhyfel, astudiodd Eric Carle gelf graffig a theipograffeg yn Academi'r Celfyddydau Cain yn Stuttgart, a graddiodd ym 1950. Symudodd i Ddinas Efrog Newydd ym 1952, a chanddo ddim ond rhyw $40 yn ei boced. Gyda chymorth Leo Lionni, cyfarwyddwr celf y cylchgrawn Fortune, cafodd Carle swydd yn ddylunydd graffig i bapur newyd The New York Times. Cafodd ei alw i Fyddin yr Unol Daleithiau a'i anfon i'r Almaen fel clerc post yn yr Ail Adran Arfogedig. Ar ôl ei wasanaeth milwrol, dychwelodd i'r New York Times, a gadawodd y papur newydd ym 1963 i weithio'n arlunydd ar ei liwt ei hun.[1]

Gofynnodd yr awdur Bill Martin, Jr. i Carle ddarlunio ei lyfr i blant, Brown Bear, Brown Bear, What Do You See? (1967), y llyfr cyntaf a ddarluniwyd ganddo. Ysgrifennodd a darluniodd Carle lyfr ei hun, 1, 2, 3 to the Zoo ym 1968, a byddai'n cyhoeddi rhyw 70 o lyfrau eraill i blant yn ystod ei oes, gan werthu mwy na 170  o gopïau i gyd. Cyhoeddwyd ei lyfr enwocaf, Y Lindysyn Llwglyd Iawn (teitl gwreiddiol: The Very Hunger Caterpillar) ym 1969. Mae'r gwaith hwnnw wedi ei gyhoeddi i 70 o ieithoedd a wedi gwerthu mwy na 55 miliwn o gopïau ar draws y byd.[1]

Priododd Eric Carle â Dorothea Wohlenberg ym 1953, a chawsant ddau blentyn, Rolf a Cirsten, cyn iddynt ysgaru ym 1963. Priododd am yr ail dro â Barbara "Bobbie" Morrison, athrawes mewn ysgol Montessori, ym 1973, ac ymsefydlasant yn Northampton, Massachusetts. Yn 2002 agorwyd Amgueddfa Gelf Llyfrau Lluniau Eric Carle yn Amherst, Massachusetts. Yn 2003 derbyniodd Wobr Laura Ingalls Wilder oddi ar y Gymdeithas Llyfrgelloedd Americanaidd i gydnabod ei gyfraniad at lenyddiaeth plant. Wedi iddynt ymddeol, trigai'r cwpl yn Key Largo, Fflorida, a Blowing Rock, Gogledd Carolina, er buont yn aml yn bwrw'r haf yn hen stiwidio Eric yn Northampton. Bu farw Bobbie Carle yn 2015,[2] a chwe mlynedd yn ddiweddarach bu farw Eric Carle yn 91 oed, yn ei gartref haf yn Northampton, Massachusetts, o fethiant yr aren.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Julia Carmel, "Eric Carle, Author of ‘The Very Hungry Caterpillar,’ Dies at 91", The New York Times (26 Mai 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 3 Mehefin 2021.
  2. (Saesneg) "The Eric Carle Museum of Picture Book Art Mourns the Loss of Co-Founder Barbara Carle", Amgueddfa Carle (9 Medi 2015). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 3 Mehefin 2021.