Er Lles Llawer - Meddygon Esgyrn Môn
Awdur | J. Richard Williams |
---|---|
Cyhoeddwr | Gwasg Carreg Gwalch |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 05/03/2014 |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781845274733 |
Genre | Hanes Cymru |
Cyfrol gan J. Richard Williams yw Er Lles Llawer - Meddygon Esgyrn Môn a gyhoeddwyd yn 2014 gan Wasg Carreg Gwalch. Man cyhoeddi: Llanrwst, Cymru.[1]
Mae'r grefft o ailosod esgyrn wedi bodoli ers o leiaf dair mil o flynyddoedd ac fel pob agwedd arall o feddyginiaethu mae iddi ei gwendidau a'i rhagoriaethau. Un peth sy'n sicr yw na ellir anwybyddu hanes y triniaethau hyn na'r galw sydd am feddygon esgyrn yn yr oes sydd ohoni.
Ysgrifennodd J. Richard Williams y gyfrol hon wedi iddo ymddeol o fod yn bennaeth ysgol, mae wedi treulio llawer o'i amser yn darlithio ar agweddau o hanes Ynys Môn. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar y pwnc, yn cynnwys O Fôn i Van Diemens Land (2007), Melinau Môn (2009) a Mynydd Parys (2011). Mae'r gyfrol hon yn seiliedig ar ysgrif a ddaeth i'r brig yn Eisteddfod Talwrn yn 2012 − dyfarnwyd gwobr y Prif Lenor i'r awdur gan y beirniad, Karen Owen.