Emily Nasrallah

Oddi ar Wicipedia
Emily Nasrallah
Ganwydإميلي أبي راشد Edit this on Wikidata
6 Gorffennaf 1931 Edit this on Wikidata
Kfeir Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mawrth 2018, 13 Mawrth 2018 Edit this on Wikidata
Beirut Edit this on Wikidata
DinasyddiaethLibanus Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol America yn Beirut Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, awdur plant, nofelydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Goethe, National Order of the Cedar Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.emilynasrallah.com Edit this on Wikidata

Llenores o Libanus yn yr iaith Arabeg oedd Emily Daoud Nasrallah (ganwyd Emily Daoud Abi Rached; 6 Gorffennaf 193114 Mawrth 2018).[1]

Ganwyd yn nhref Kfeir, ar droed Mynydd Hermon, i deulu o ffermwyr Cristnogol. Cyhoeddodd ei darnau cyntaf mewn cylchgronau. Gweithiodd rhan-amser mewn ysgol ferched i ennill arian i fynychu'r Brifysgol Americanaidd yn Beirut, ac enillodd ei gradd yn addysg a llenyddiaeth ym 1958. Priododd Philip Nasrallah ym 1957, a chawsant pedwar o blant.

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Tuyur Aylul ("Adar Medi"), ym 1962. Yn ystod ei hoes, ysgrifennodd chwe nofel arall, a sawl casgliad o straeon byrion a thraethodau. Gwrthododd i adael y wlad yn ystod Rhyfel Cartref Libanus, er i gartref ei theulu gael ei dinistrio ar un adeg. Daeth yn rhan o garfan o lenorion benywaidd Libanaidd, gan gynnwys Hanan Al-Sheikh, a ysgrifennai ffuglen ar bwnc y rhyfel.[2]

Enillodd Fedal Goethe yn 2017. Bu farw yn 86 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Sam Roberts, "Emily Nasrallah, Lebanese Novelist and Activist, Dies at 86", The New York Times (16 Mawrth 2018). Adalwyd ar 3 Ebrill 2018.
  2. (Saesneg) Peyvand Khorsandi, "Emily Nasrallah: Lebanese writer whose novels spoke of women, war and migration in her homeland", The Independent (21 Mawrth 2018). Adalwyd ar 3 Ebrill 2018.