Neidio i'r cynnwys

Elwyn Roberts

Oddi ar Wicipedia
Elwyn Roberts
Ganwyd1904 Edit this on Wikidata
Bu farw1988 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Roedd Elwyn Roberts (19041988) yn Gyfarwyddwr Cyllid a Threfnydd y Gogledd i Blaid Cymru ac yn ddiweddarach yn y 1960au daeth yn Ysgrifennydd Cyffredinol y blaid. Ef oedd yn gyfrifol am y cynllun o rannu lleiniau bach o dir er ceisio rhwystro boddi Cwm Clywedog. Bu hefyd yn gynghorydd sir.

Cafwyd cyfres o ddarlithoedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 gan, ymysg eraill, Dafydd Wigley.[1] Mae ei bapurau yn ymwneud ag Ymgyrch Senedd i Gymru yn yr 1940au a'r 1950au yn y Llyfrgell Genedlaethol.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. http://www.hanesplaidcymru.org/elwyn-roberts-darlithiau/
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-29. Cyrchwyd 2019-08-29.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.