Santes Eiluned

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Eluned (santes))
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd: Santesau Celtaidd 388-680

Santes oedd Eiluned neu Eluned un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog

Ei gwylmabsant yw 1 Awst.

Mae nifer o amrywiaethau o'i henw: Eiliueth (o'r Cognatio) Elvetha (Lladin) ac Almedha (Sacsoneg) yn arwain at Eiluned, Elwedd ac Aled mewn Cymraeg cyfoes, ond maent i gyd yn cyfeirio at yr un ddynes.[1][2] 'Eiluned' yw'r sillafiad a ddefnyddiai Lewis Glyn Cothi yn ei gerddi (Gwaith, 1837 t.88) a chytunai Ifor Williams gyda hyn (gweler LBS II.419 n.1.). 'Aelivedha' yw enw Gerallt Gymro arni.

Ffynnon Maendu neu Ffynnon Eluned, Aberhonddu

Eiluned ac Aberhonddu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynnon Eiluned (cefn) a'r pwll ymdrochi (blaen).
Y tu mewn i Ffynnon Eluned, gyda phridd yr ardal yn rhoi lliw coch, gwaedlyd i'r dwr
Eluned, Cadeirlan Aberhonddu.

Fel un o ferched Brychan Brycheiniog, [1]oedd yn etifeddu tir roedd Eiluned yn tynnu sylw fel priodferch posibl. Roedd pennaeth llwyth cyfagos yn dymuno'i phriodi a bu raid iddi ddianc rhagddo gan y ceisiai ei gorfodi hi i'w briodi.

Cysylltir Eiluned yn bennaf gyda thref Aberhonddu Adeiladwyd y gadeirlan Normanaidd sy'n dwyn yr enw Sant Ioan yr Efengylydd, ar safle hen eglwys Celtaidd[3]ar fryn uwchben y dref. Yn ymyl mae'r ffynnon a elwir 'Ffynnon y Priordy', heddiw. Mae'n debyg fod y ffynnon hon a'r llan gwreiddiol wedi'u henwi ôl Eiluned. Sefydlodd Eiluned ddwy llan arall: un yn Llaneleu, tair milltir o Garth Madryn. Heddiw mae'r eglwys yn dwyn yr enw Elliw, santes o'r 6g, ond cofnododd William o Gaerwrangon, yn y 15g fod Eiluned wedi byw 14 milltir o'r Henffordd. Mae Llaneleu tua 14 milltir o Henffordd. Sefydlodd hithau Llanelwedd hefyd (ailgysegrwyd yr eglwys i Sant Mathew yn ddiweddarach.) Lladdwyd Eiluned gan lwyth paganaidd ger Aberhonddu. Rholiodd y pen a bwrw yn erbyn carreg y Maendu, ac fe darddodd ffynnon yn y man. Adnewyddwyd y ffynnon hon yn yr 20g a gellir ei gweld heddiw yn ymyl Maes y Ffynnon. Dywedir fod gwyrthiau wedi digwydd wrth ei chreirfa yn fuan ar ôl ei merthyrdod.

Gwŷl Eiluned[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1188 disgrifiodd Gerallt Gymro ŵyl blynyddol mewn capel a gysegrwyd iddi tua tair milltir o Aberhonddu; gweler ei lyfr Itinerarium Cambriae (Hanes y Daith Trwy Gymru).[4] Dywedir fod llawer wedi eu hiacháu trwy ffydd ar ddydd ei gwŷl a pharhaodd y werin i ddathlu 'Gŵyl Eiluned' trwy yr Oesoedd Canol er gwaethaf ymdrechion yr Eglwys Gatholig i droi eu sylw at saint Beiblaidd. Peidiodd ei gŵyl o ganlyniad i'r Diwigiad Mawr a throwyd y capel yn ysgubor, a dadfeiliodd.

Cydnabuwyd cysylltiad Eiluned â thref Aberhoddu yn Oes Fictoria pan osodwyd ffenestr liw yn dangos Eluned (Aled) yn nghapel Cain yn y Cadeirlan.

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Jones, T. T. 1977, The Daughters of Brychan yn Brycheiniog (cylchgrawn) Cyf.XVII
  2. A Welsh Classical Dictionary gan P.C. Bartrum lle dyfynir Early Welsh Genealogical Tracts hefyd gan P. C. Bartrum, Caerdydd, 1966; gweler gwefan y Llyfrgell Genedlaethol. adalwyd 31 Gorffennaf 2017.
  3. Croeso i Eglwys Gadeiriol Aberhonddu (pamffledyn)
  4. Gerald of Wales. The Itinerary of Archbishop Baldwin through Wales – Book I, Ch. 2: Journey through Hay and Brecheinia. (Oxford, Mississippi, 1997).