Ellie Curson

Oddi ar Wicipedia
Ellie Curson
Ganwyd18 Chwefror 1994 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auYeovil Town L.F.C., Bristol City W.F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru Edit this on Wikidata
Saflecanolwr, blaenwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata
Ellie Curson
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnEllen Rose Curson[1]
Dyddiad geni (1994-02-18) 18 Chwefror 1994 (30 oed)
Man geniCasnewydd
SafleCanolwr, Blaenwr
Gyrfa Ieuenctid
2001–2005Griffithstown
2005–2006Mardy Tigers
2006–2010Bristol Academy
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2010–2014Bristol Academy18(0)
2014–2018Yeovil Town Ladies60(6)
Tîm Cenedlaethol
2012–2016Cymru3(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 16:37, 11 Chwefror 2018 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 13:07, 9 Mawrth 2016 (UTC)

Mae Ellen Rose "Ellie" Curson (a aned 18 Chwefror 1994) yn chwaraewr pêl-droed proffesiynol Cymreig a chwaraeodd mwyaf diweddar dros dîm Merched Yeovil Town.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganed Curson yng Nghasnewydd, ac fe'i magwyd yn Griffithstown gerllaw. Dechreuodd ei gyrfa pêl-droed yn 7 oed ar ôl ymuno â sesiynau hyfforddi ei brawd a gynhaliwyd gan ei thad. Dechreuodd chwarae i dîm bechgyn dan 8 oed Griffithstown gan barhau i chwarae gyda nhw hyd 11 oed. Wedyn ymunodd â Mardy Tigers tîm merched lleol [2]. Bu'n chware i'r Maerdy hyd iddi ymuno â Chanolfan Rhagoriaeth Academi Bryste yn 12 oed. Ar ôl ymuno â Bryste, bu Curson yn astudio am arholiadau lefel A yng Ngholeg Filton. Ym mis Mehefin 2016, graddiodd Curson o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, gyda gradd faglor dosbarth cyntaf mewn Chwaraeon ac Addysg Gorfforol [3].

Gyrfa clwb[golygu | golygu cod]

Academi Bryste[golygu | golygu cod]

Wedi symud ymlaen trwy'r ochr ieuenctid a'r ail dîm, fe wnaeth Curson ei ymddangosiad gyntaf dros Academi Bryste ar 9 Mai 2010; gan ddod ymlaen fel eilydd yng ngêm olaf y tymor. Roedd y gêm yn erbyn Watford yn Uwch-gynghrair Merched Lloegr[4].

Arwyddodd Curson ei chontract cyntaf gydag Academi Bryste yn ystod eu tymor cyntaf yn yr Or Uwch Gynghrair (WSL) ym mis Mehefin 2011. Ar 5 Hydref 2011[5], sgoriodd Curson ei gôl gyntaf i Academi Bryste wrth iddynt golli 4-2 yn erbyn Energiya Vorenzh yng Nghynghrair y Pencampwyr[6]. Bu Curson hefyd ymddangos fel eilydd na chafodd ei ddefnyddio yn ffeinal Cwpan Menywod yr FA yn 2013 pan gollodd y tîm i Ferched Arsenal. Fe'i rhyddhawyd gan Academi Bryste ym mis Mehefin 2014[7] .

Met Caerdydd[golygu | golygu cod]

Wrth barhau i fod efo Academi Bryste ond yn astudio am radd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, bu Curson yn chware i Fet Caerdydd yn Uwch Gynghrair Merched Cymru.

Merched Yeovil Town[golygu | golygu cod]

Ar 23 Mehefin 2014, yn dilyn ei rhyddhau o Fryste, arwyddodd Curson ar gyfer Merched Yeovil Town oedd yn chware yn ail adran y WSL[8]. Fe wnaeth Curson ei ymddangosiad gyntaf i Yeovil, ar 28 Mehefin 2014, yn erbyn Sunderland pan drechwyd ei thîm 2-0. Mwynhaodd Curson tymor llwyddiannus yn 2015 wrth i Yeovil orffen yn y bedwerydd yn WSL 2, a chafodd ei enwi'n chwaraewr y tymor gan y rheolwr Jamie Sherwood a llofnodi cytundeb blwyddyn ar gyfer tymor 2016.

Ar 22 Ionawr 2018, adawodd Curson Yeovil Town ar ôl iddi benderfynu na allai wneud y newid i yrfa pêl-droed llawn amser a gan ei bod am canolbwyntio ar ei yrfa fel athro[9].

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod]

Wedi cynrychioli Cymru ar lefel dan 16 oed, dan 17 ac o dan 19 oed, gwnaeth Curson ei ymddangosiad cyntaf i dîm cenedlaethol Cymru yn 18 oed mewn gêm gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd ym mis Tachwedd 2012.

Ystadegau[golygu | golygu cod]

Ymddangosiadau a goliau mesyl clwb tymor a chystadleuaeth
Clwb Tymor cyngrhair Cwpan FA y merched Cwpan WSL Ewrop cyfanswm
Adran Ymddangos Gôl Ymddangos Gôl Ymddangos Gôl Ymddangos Gôl Ymddangos Gôl
Bristol Academy 2009–10 WPL National 1 0 0 0 1 0
2011 FA WSL 0 0 0 0 0 0 1 1 1 1
2012 FA WSL 8 0 0 0 0 0 8 0
2013 FA WSL 9 0 0 0 0 0 9 0
2014 FA WSL 1 0 0 3 0 1 0 0 0 4 0
Cyfanswm 18 0 3 0 1 0 1 1 23 1
Yeovil Town Ladies 2014 FA WSL 2 13 2 0 0 0 0 13 2
2015 FA WSL 2 17 2 2 1 4 0 23 3
2016 FA WSL 2 18 2 3 0 0 0 21 2
2017 FA WSL 1 8 0 1 0 9 0
2017–18 FA WSL 1 4 0 0 0 3 0 7 0
Cyfanswm 60 6 6 1 7 0 73 7
Cyfanswm gyrfa 78 6 9 1 8 0 1 1 96 8

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "List of Players under Written Contract Registered Between 01/02/2013 and 28/02/2013". thefa.com. The Football Association. Cyrchwyd 7 Ebrill 2018.
  2. "Ellen Curson Player Profile". yeoviltownladies.com. Yeovil Town Ladies FC. Cyrchwyd 7 Ebrill 2018.[dolen marw]
  3. "Captain Curson Graduates". yeoviltownladies.com. Yeovil Town Ladies FC. 24 June 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-03. Cyrchwyd 7 Ebrill 2018.
  4. "FA Women's Premier League: Watford LFC 1–1 Bristol Academy WFC". The FA: Full-time. The Football Association. 9 May 2010. Cyrchwyd 7 Ebrill 2018.
  5. "Ellen Curson Player Profile". bristolacademywfc.co.uk. Bristol Academy WFC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 April 2014. Cyrchwyd 7 Ebrill 2018.
  6. "Energiya Vorenzh vs. Bristol City 4–2". Soccerway. 5 October 2011. Cyrchwyd 7 Ebrill 2018.
  7. "Bristol Academy's Dave Edmondson dispenses with fowards Heatherson and Curson". Bristol Post. Local World. 12 June 2014. Cyrchwyd 07 Ebrill 2018. Check date values in: |accessdate= (help)
  8. "Yeovil Town Ladies bolster ranks by signing Welsh international Ellie Curson". Western Gazette. Local World. 23 June 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 June 2014. Cyrchwyd 07 Ebrill 2018. Unknown parameter |dead-url= ignored (help); Check date values in: |accessdate= (help)
  9. "Ellie Curson: Yeovil Town Ladies captain leaves to focus on teaching". BBC Sport. 22 January 2018. Cyrchwyd 07 Ebrill 2018. Check date values in: |accessdate= (help)