Ellen Hagen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ellen Hagen
Ellen Hagen, Upsala, Sweden.jpeg
Ganwyd 15 Medi 1873 Edit this on Wikidata
Jakobs församling Edit this on Wikidata
Bu farw 28 Ionawr 1967 Edit this on Wikidata (93 oed)
Plwyf Täby, Esgobaeth Stockholm Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Sweden Sweden
Galwedigaeth Gwleidydd, ymgyrchydd dros hawliau merched, Swffragét Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad Frida Stéenhoff Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Rhyddfrydwyr Edit this on Wikidata
Tad Bernhard Wadström Edit this on Wikidata
Priod Robert Hagen Edit this on Wikidata
Plant Tord Hagen Edit this on Wikidata

Ffeminist a swffragét o Sweden oedd Ellen Hagen (née Wadström; 15 Medi 1873 - 28 Ionawr 1967) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd, ymgyrchydd dros hawliau merched. Roedd yn aelod o'r Blaid Ryddfrydol.

Ganed Ellen Helga Louise Hagen yn Jakobs församling ar 15 Medi 1873 a bu farw yn Plwyf Täby, Esgobaeth Stockholm. Roedd yn ferch i'r offeiriad a'r awdur Bernhard Wadström. Priododd Roger Hagen, llywodraethwr rhanbarth Gävleborg. Roedd y llysgennad Tord Hagen yn blentyn iddi. [1][2][3][4][5]

Roedd yn weithredwr ac yn wleidydd a ymladdodd dros hawliau menywod a bu'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol Pleidlais y Menywod (National Association for Women's Suffrage), yn gadeirydd Liberala kvinnor (Menywod Rhyddfrydol) ym 1938–1946 a Svenska Kvinnors Medborgarförbund (Cymdeithas Dinasyddion Menywod Sweden) ym 1936–1963. Yn ystod y 1920au a'r 1930au, roedd yn weithgar yn rhyngwladol o fewn maes heddychiaeth a chynrychiolydd Sweden yn y gynhadledd heddwch ryngwladol ym Mharis yn 1931.

Y siaradwr rhugl[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn weithgar fel siaradwr ar gyfer Countryrage for Women's Suffrage. Disgrifir hi fel siaradwr rhugl iawn, a gwerthfawrogwyd ei chyfraniad: trwy ei chysylltiadau, enillodd y mudiad gefnogwyr o'r dosbarth uchaf, na fyddent fel arall yn barod i wrando ar araith am yr hawl i fenywod bleidleisio (etholfraint), a thrwy ei ffordd hyfryd o wisgo fe brofodd yn anghywir fod pob swffragét yn "wrywaidd". Cyflawnwyd pleidlais i fenywod yn Sweden ym 1919. [6][7]

Wedi marwolaeth ei gŵr, gwahoddwyd hi, gan lywodraeth Sweden i barhau fel Llywodraethwr Gävleborg ond dewisiodd, yn hytrach, fod yn olygydd y cylchgrawn ffeministaidd Tidevarvet.[8]

Fe'i claddwyd yn Hen Fynwent Uppsala.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Blaid y Merched Rhyddfrydol am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dyddiad geni: "Ellen H L Hagen"; dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 13500; dyddiad cyrchiad: 9 Mawrth 2017; tudalen: 734. "Jakob och Johannes kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/SSA/0008/C I a/25 (1870-1876), bildid: 00025625_00193". p. 580. 330,,15,,1,Ellen helha Louisa 5th,......Wadström Carl Berhard Filo...Pastor Adjunkt o(ch) Helga Westdahl?, No 4 Norrmalmsgat(an)...42/35
  2. Dyddiad marw: "Ellen H L Hagen"; dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 13500; dyddiad cyrchiad: 9 Mawrth 2017; tudalen: 734.
  3. Man geni: "Ellen H L Hagen"; dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 13500; dyddiad cyrchiad: 9 Mawrth 2017; tudalen: 734. "Jakob och Johannes kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/SSA/0008/C I a/25 (1870-1876), bildid: 00025625_00193". p. 580. 330,,15,,1,Ellen helha Louisa 5th,......Wadström Carl Berhard Filo...Pastor Adjunkt o(ch) Helga Westdahl?, No 4 Norrmalmsgat(an)...42/35
  4. Man claddu: "Hagen, Ellen Helga Louise f. Wadström". Cyrchwyd 8 Mawrth 2017. https://kulturpersoner.uppsalakyrkogardar.se/ellen-hagen/; dyddiad cyrchiad: 3 Mehefin 2019; enwyd fel: Ellen Hagen 1873–1967. Kvinnosakskämpe, publicist och politiker..
  5. Tad: "Ellen H L Hagen"; dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 13500; dyddiad cyrchiad: 9 Mawrth 2017; tudalen: 734. "Jakob och Johannes kyrkoarkiv, Födelse- och dopböcker, SE/SSA/0008/C I a/25 (1870-1876), bildid: 00025625_00193". p. 580. 330,,15,,1,Ellen helha Louisa 5th,......Wadström Carl Berhard Filo...Pastor Adjunkt o(ch) Helga Westdahl?, No 4 Norrmalmsgat(an)...42/35 https://sok.riksarkivet.se/?postid=Folk_117292768; dyddiad cyrchiad: 15 Ebrill 2018; enwyd fel: Ellen Helga Lovisa, f. 1873 i Stockholm.
  6. Galwedigaeth: "Ellen H L Hagen"; dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 13500; dyddiad cyrchiad: 9 Mawrth 2017; tudalen: 734.
  7. Aelodaeth: "Ellen H L Hagen"; dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 13500; dyddiad cyrchiad: 9 Mawrth 2017; tudalen: 734.
  8. "Tidevarvsgruppen (The Age Group), Fogelstad-gruppen (The Fogelstad Group) and the newspaper Tidevarvet (The Age.)". Hjördis Levin's homepage. Cyrchwyd 30 December 2016.