Eliza Calvert Hall

Oddi ar Wicipedia
Eliza Calvert Hall
FfugenwEliza Calvert Hall Edit this on Wikidata
Ganwyd11 Chwefror 1856 Edit this on Wikidata
Bowling Green, Kentucky Edit this on Wikidata
Bu farw3 Rhagfyr 1935, 20 Rhagfyr 1935 Edit this on Wikidata
Wichita Falls, Texas Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Coleg Ferched, Western Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Swyddymgyrchydd dros hawliau merched Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAunt Jane of Kentucky Edit this on Wikidata

Ffeminist Americanaidd oedd Eliza Calvert Hall (11 Chwefror 1856 - 3 Rhagfyr 1935) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur, swffragét ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.

Fe'i ganed yn Bowling Green, Kentucky ar 11 Chwefror 1856; bu farw yn Wichita Falls, Texas. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Ferched, Western.[1][2][3]

Ysgrifennai Lida Obenchain o dan y llysenw Eliza Calvert Hall, a daeth yn adnabyddus iawn dros nos am ei straeon byrion yn cynnwys gwraig weddw oedrannus, "Modryb Jane", a siaradai'n blaen am y bobl roedd hi'n eu hadnabod a'i phrofiadau yn y De Gwledig (Deep South).[4][5]

Gwaith mwyaf adnabyddus Lida Obenchain yw Aunt Jane of Kentucky a ddaeth yn hynod o boblogaidd pan argymhellodd Arlywydd yr Unol Daleithiau Theodore Roosevelt y llyfr i bobl America yn ystod araith, gan ddweud, "Rwy'n argymell yn gynnes bennod gyntaf Modryb Jane o Kentucky fel llwybr i bob teulu lle mae'r dynion yn tueddu i ddiystyru hawliau eu menywod."[6][7]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Roedd Eliza Caroline Calvert yn ferch i Thomas Chalmers Calvert a Margaret (Younglove) Calvert. Cafodd ei hadnabod fel "Lida" trwy gydol ei hoes.[8] Ganwyd tad Lida, Thomas Chalmers Calvert yn Giles County, Tennessee i Samuel Wilson Calvert, gweinidog Presbyteraidd, a'i wraig Eliza Caroline (Hall) Calvert. Roedd mam Lida, Margaret Younglove, yn dod o Johnstown, Efrog Newydd.[9][10]

Mynychodd Lida ysgol breifat leol, ac yna Western Female Seminary yn Oxford, Ohio. Dilynodd ddwy yrfa a oedd yn dderbyniol i fenyw sengl yn ei chyfnod: dysgu mewn ysgol ac ysgrifennu barddoniaeth sentimental. Dechreuodd ei gyrfa ysgrifennu proffesiynol er mwyn helpu i gynnal ei mam, ei brodyr a'i chwiorydd. Derbyniodd cylchgrawn Scribner Monthly ddwy o’i cherddi i’w cyhoeddi ym 1879 a thalu’r hyn sy’n cyfateb heddiw i US $ 600. Parhaodd i ysgrifennu a chyhoeddwyd o leiaf chwe cherdd arall cyn ei bod yn ddeg ar hugain oed.[10]

Ar Orffennaf 8, 1885, priododd Lida â'r Uwchgapten William Alexander Obenchain, ag yntau'n 44 oed. Roedd Obenchain yn gyn-filwr, yn frodor o Virginia ac wedi ymladd yn Rhyfel Cartref America; yn 1883 fe'i benodwyd yn llywydd Coleg Ogden, ysgol ddynion fach yn Bowling Green. Cafodd Lida a William bedwar o blant: Margery, William Alexander Jr (Alex), Thomas Hall a Cecilia (Cecil). Oherwydd ei chyfrifoldebau teuluol, nid oedd ganddi lawer o amser i ysgrifennu. Fe wnaeth ei rhwystredigaeth fel gwraig tŷ ddi-dâl ei hysgogi i gefnogi'r achos dros bleidlais i fenywod (neu etholfraint) ac i weithio gyda Chymdeithas Hawliau Cyfartal Kentucky.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Disgrifiwyd yn: https://documents.alexanderstreet.com/c/1009677121.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
  3. Dyddiad geni: "Eliza Calvert Hall". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Niedermeier, Lynn E. (2004). "A 1908 Interview With the Author of "Aunt Jane of Kentucky"". Landmark Report. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mehefin 2011. Cyrchwyd 21 Mawrth 2010. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  5. Galloway, Ewing (30 Awst 1908). "Eliza Calvert Hall Is Seen At Close Range". Henderson Daily Gleaner. Henderson, Kentucky: Henderson Daily Gleaner. Cyrchwyd 21 Mawrth 2010.
  6. Cyfieithwyd o: "I cordially recommend the first chapter of Aunt Jane of Kentucky as a tract in all families where the menfolk tend to selfish or thoughtless or overbearing disregard to the rights of their womenfolk."
  7. Niedermeier, Lynn E. (2007). "Aunt Jane of Kentucky". Eliza Calvert Hall: Kentucky Author and Suffragist. Lexington, Kentucky: University Press of Kentucky. tt. 120–130. ISBN 0-8131-2470-0. Cyrchwyd 21 Mawrth 2010.
  8. Niedermeier, Lynn E. (2007). "It Did Not Look as We Had Pictured You". Eliza Calvert Hall: Kentucky Author and Suffragist. Lexington, Kentucky: University Press of Kentucky. tt. 12–24. ISBN 0-8131-2470-0. Cyrchwyd 21 Mawrth 2010.
  9. Niedermeier, Lynn E. (2007). "Fighting and Preaching". Eliza Calvert Hall: Kentucky Author and Suffragist. Lexington, Kentucky: University Press of Kentucky. tt. 4–11. ISBN 0-8131-2470-0. Cyrchwyd 21 Mawrth 2010.
  10. 10.0 10.1 Niedermeier, Lynn (30 April 2009). "Biography". Eliza Calvert Hall. Bowling Green, KY: Western Kentucky University. Cyrchwyd 22 Mawrth 2010.