Elisabeth Mann-Borgese

Oddi ar Wicipedia
Elisabeth Mann-Borgese
Ganwyd24 Ebrill 1918 Edit this on Wikidata
München Edit this on Wikidata
Bu farw8 Chwefror 2002 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
St. Moritz Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Canada Canada
Alma mater
  • Coleg Freies Zürich Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, ecolegydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Dalhousie Edit this on Wikidata
TadThomas Mann Edit this on Wikidata
MamKatia Mann Edit this on Wikidata
PriodGiuseppe Antonio Borgese Edit this on Wikidata
PlantAngelica Borgese, Marcel Deschamps, Dr. Dominica Borgese Edit this on Wikidata
Gwobr/auAelod yr Urdd Canada, Medal Caird, doctor honoris causa Prifysgol Concordia Edit this on Wikidata

Awdures o Ganada a'r Almaen oedd Elisabeth Mann-Borgese (24 Ebrill 1918 - 8 Chwefror 2002) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ecolegydd ac academydd ond yn bennaf fel arbenigwr rhyngwladol mewn cyfraith morol. Roedd yn un o gyd-sefydlwyr "Clwb Rhufain" (Club of Rome) a gweithiai ym Mhrifysgol Dalhousie yn Halifax, Canada. Cred Clwb Rhufain oedd fod dirywiad amgylcheddol, tlodi, afiechyd endemig, malltod trefol, trosedd ayb i gyd yn yr un pair, yn gysylltieedig â'i gilydd yn hytrach nag yn endidau ar wahân.[1][2]

Fe'i ganed yn München, yr Almaen a bu farw yn St. Moritz, y Swistir o niwmonia pan oedd ar wyliau sgio. Fe'i claddwyd ym Mynwent Kilchberg. Bu'n briod i Giuseppe Antonio Borgese.[3][4][5][6][7][8]

Yn 52 oed, roedd Mann Borgese wedi sefydlu ei hun fel arbenigwr rhyngwladol ar y moroedd. Hi oedd sefydlydd a threfnydd y gynhadledd gyntaf ar gyfraith y môr ym Malta ym 1970, gyda'r teitl "Pacem in Maribus" ("Heddwch ar y Moroedd"). Rhwng 1973 a 1982, ffurfiodd Mann Borgese ran o'r grŵp arbenigol o ddirprwyaeth Awstria yn ystod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr.[9][10]

Yn 59 oed, yn 1977, daeth Mann Borgese yn Athro Gwyddor Wleidyddol ym Mhrifysgol Dalhousie yn Halifax, Nova Scotia, Canada, trwy wahoddiad. Derbyniodd radd Doethur anrhydeddus mewn Cyfreithiau, o Dalhousie yn 1998, a hithau'n 80 oed, a daliodd ati i gyflawni ei dyletswyddau addysgu hyd nes ei bod yn 81. Bu farw Mann Borgese yn annisgwyl yn 83 oed yn ystod gwyliau sgïo yn St. Moritz, y Swistir.[1][2][11]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Gwaith ymchwil a ffeithiol[golygu | golygu cod]

  • The Oceanic Circle: Governing the Seas as a Global Resource (1998), United Nations University Press: Efrog Newydd, ISBN 92-808-1013-8, LCCN 98-40090
  • SEAFARM: The story of Aquaculture (1980) Harry N Abrams, NY
  • The Drama of the Oceans (1975), ISBN 0-8109-0337-7
  • The Ascent of Woman (1963)

Ffuglen[golygu | golygu cod]

  • "The Immortal Fish" (1957)
  • "For Sale, Reasonable" (1959)
  • "True Self" (1959)
  • "Twin's Wail" (1959)
  • To Whom it Mai Concern (1960)
  • "My Own Utopia" (1961) (rhan o The Ascent of Woman)

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o The World Academy of Sciences (TWAS), Clwb Rhufain am rai blynyddoedd. [12][13]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Aelod yr Urdd Canada, Medal Caird (1999), doctor honoris causa Prifysgol Concordia .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Elisabeth Borgese, 83; Activist Was Thomas Mann's Daughter". Los Angeles Times. 2002-02-24. Cyrchwyd 2019-03-02.
  2. 2.0 2.1 Saxon, Wolfgang (2002-02-16). "Elisabeth Mann Borgese, 83, Writer and Defender of the Oceans". The New York Times. Cyrchwyd 2019-03-02.
  3. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12591675z. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12591675z. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12591675z. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Elisabeth Mann-Borgese". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth Mann Borgese". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elisabeth Mann Borgese". "Elizabeth Mann".
  6. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 "Elisabeth Mann-Borgese". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth Mann Borgese". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elisabeth Mann Borgese". "Elizabeth Mann Borgese". "Elizabeth Mann".
  7. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014
  8. Man claddu: http://www.kilchberg.ch/xml_1/internet/de/application/d20/d24/d302/f243.cfm. dyddiad cyrchiad: 20 Tachwedd 2015.
  9. Dalhousie University Obituaries, Elisabeth Mann Borgese In Memoriam, Dalhousie News Volume 32, Number 7; Mawrth 13, 2002
  10. Visionäre Frauen im Einsatz für den Umweltschutz - 1899 bis heute. Katalog zur Ausstellung. Kuratierung: Sabine Diemer und Dr. Anna-Katharina Wöbse, Herausgeber: Bundesministerium für Umwelt, Naturschutz und Reaktorsicherheit (BMU), Deutsche Bundesstiftung Umwelt (DBU), 2013, p. 96, "Archived copy" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-05-20. Cyrchwyd 2013-05-17. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)
  11. Elisabeth Mann Borgese - die jüngste Tochter von Thomas Mann. Ein Hörporträt von Wolf Gaudlitz. Unter Mitwirkung von Elisabeth Mann Borgese et al. Freiburg/ Breisgau: Audiobuch, 2010, 4 CD (245 munud). ISBN 978-3-89964-387-9.
  12. Alma mater: https://www.fgz.ch/elisabeth_mann.html?&L=en. dyddiad cyrchiad: 20 Tachwedd 2015. dyfyniad: She [...] followed her parents into exile in Switzerland in 1933 where she attended Freies Gymnasium Zürich, gaining her Matura diploma in 1935..
  13. Aelodaeth: https://twas.org/directory/mann-borgese-elisabeth.