Elbasan Arena
Mae'r Elbasan Arena (a elwid gynt yn Stadiwm Ruzhdi Bizhuta a enwyd ar ôl un o chwaraewyr enwocaf y tîm lleol) yn stadiwm aml-bwrpas yn ninas Elbasan, Albania. Fe'i hagorwyd yn 1967 a bu ers hynny yn gartref i glwb pêl-droed KF Elbasani, clwb sy'n chwarae ar y Kategoria Superiore, adran gyntaf pêl-droed Albania.[1]
Ym mis Ionawr 2014, cadarnhawyd y byddai'r stadiwm yn gartref dros dro i gemau cartref tîm pêl-droed cenedlaethol Albania,tra bod y gwaith o ddymchwel ac ailadeiladu Stadiwm Stafa Qemal yn y brifddinas, Tirana yn cael ei gwblhau. Bu'n rhaid i Ffederasiwn Pêl-droed Albania adnewyddu'r stadiwm er mwyn bodloni gofynion UEFA.
Dechreuwyd ar y gwaith o ail-adeiladu ym mis Chwefror 2014. Ail-adeiladwyd yr ystafelloedd newid ar gyfer chwaraewyr a dyfarnwyr, a crewyd cyfleusterau newydd ar gyfer cynnal cynadleddau a digwyddiadau. Cafodd y goleuadau stadiwm ei ddisodli'n llwyr a gosodwyd sgorfwrdd electronig newydd. Gosodwyd hefyd 12,500 o seddi. Cwblhawyd y gwaith ar 8 Hydref 2014. Cyfanswm y cost adnewyddu oedd €5,500,000[2]
Roedd gêm gyntaf Albania yn y Arena Elbasan ar 11 Hydref 2014 pan wynebodd y tîm cartref Denmarc mewn gêm rhagbrofol i gwpan Ewro 2016.[3] Chwaraewyd y gêm o flaen torf lawn, a record i'w stadiwm hyd y dyddiad yna, o 12,800. Llwyddodd Albania i ennill pwynt mewn gêm gyfartal 1 - 1 yn erbyn tîm â phedigri cryf iawn.
Ffeithiau[golygu | golygu cod y dudalen]
Maint cae chwarae yr Elbasan Arena yn 104 metr o hyd wrth 66metr o led. Capasiti y stadiwm yw 12,800. Mae'r cae yn laswellt go iawn.
Stwdiwm Elbasan Arena yw'r ail fwyaf yn Albania. Yr un fwyaf yw Stadiwm Loro Boriçi yn Shkodër.[4]
Lleoliad[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae stadiwm Elbasan Arena oddeutu 1 km i'r dwyrain o ganol y ddinas a 2 km i'r gogledd ddwyrain o orsaf drên. https://it.wikipedia.org/wiki/Elbasan_Arena#/maplink/0
Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]
Bydd Cymru yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn Albania yn yr Elbasan Arena ar 20 Tachwedd 2018.