Eirlys Wyn Jones
| Eirlys Wyn Jones | |
|---|---|
| Ganwyd | 1943 |
| Bu farw | Rhagfyr 2025 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, ffermwr |
Nofelydd o Gymru oedd Eirlys Wyn Jones (1943 – Rhagfyr 2025).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Cafodd Eirlys ei magu yn Rhos-fawr a'r Ffôr ar y ffin rhwng Llŷn ac Eifionydd. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Y Ffôr ac yna Ysgol Ramadeg Pwllheli cyn gadael yr ysgol yn 16 oed.[1] Bu'n gweithio fel swyddog treth ym Mhorthmadog ac mewn swyddfa cyfrifydd ym Mhwllheli.
Bu hi a'i gŵr yn ffermio yng nghartref y teulu yn Chwilog nes iddynt ymddeol yn 2017 a dim ond bryd hynny y bu iddi droi at ysgrifennu.
Mentrodd anfon ei nofel gyntaf Pwy Ti'n Feddwl Wyt Ti? [2] i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018. Derbyniodd ei hymgais feirniadaeth gadarnhaol gan y beirniaid eisteddfodol, gan hynny cyflwynodd y gwaith i Wasg Carreg Gwalch i'w gyhoeddi yn 2019.
Cyhoeddodd ddwy nofel arall, Tu Ôl I'r Llenni yn 2021 a Tua'r Gorwel yn 2023.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roed hi a Griff ei gŵr yn rhieni i dri o blant ac yn Nain a Thaid i wyth.
Bu farw yn 82 mlwydd oed. Mewn teyrnged iddi, dywedodd Nia Roberts, Golygydd Gwasg Carreg Gwalch: "Roedd yn fraint cael cydweithio ag Eirlys Wyn Jones ar ei thair nofel – roedd hi’n awdur naturiol, er na ddechreuodd sgwennu nes iddi ymddeol, a’i harddull gynnil yn cyffwrdd y galon."[3]
| Gwybodaeth o Gwales |
|
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Eirlys Wyn Jones ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Annogaeth teulu yn arwain at gyhoeddi nofel gyntaf Eirlys. - Free Online Library". www.thefreelibrary.com. Cyrchwyd 2019-11-13.
- ↑ Jones, Eirlys (2019). PWY TI'N FEDDWL WYT TI?. Llanrwst: GWASG CARREG GWALCH. ISBN 1845276965. OCLC 1083136548.
- ↑ "'Awdur naturiol a chynnil': Teyrngedau i Eirlys Wyn Jones". newyddion.s4c.cymru. 2025-12-30. Cyrchwyd 2025-12-31.