Eifionydd (cerdd)

Oddi ar Wicipedia

Cerdd Gymraeg gan R. Williams Parry ydy Eifionydd, sy'n ddisgrifiad o'r ardal wledig hon sydd wedi ei lleoli i’r dwyrain o dref Pwllheli yn Llŷn ac i’r gorllewin o dref Porthmadog, nad yw wedi newid llawer yng ngolwg y bardd. Sonir yma am y 'Lôn Goed' a chyffelybir ardal amaethyddol, tawel Eifionydd gyda'r byd modern, diwydiannol y magwyd y bardd ynddi; Dyffryn Nantlle. Mae'n ddihangfa i'r bardd, yng nghwmni cyfaill neu ar ei ben ei hun. Llwybr yw'r Lôn Goed, sy'n ymlwybro trwy ganol cefn gwlad am oddeutu pum milltir.[1]

Mae'r gerdd yn delyneg ar fydr ac odl.

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Ardal Eifionydd yn agos i Chwilog, Llanystumdwy a Chricieth yng Ngwynedd yw canolbwynt sylw R. Williams Parry yn y gerdd hon ac ardal y Lôn Goed yn arbennig. Lle prydferth a naturiol ydoedd, "bro rhwng môr a mynydd".

Yn y pennill cyntaf, gwrthgyferbynnir hacrwch ardaloedd diwydiannol â harddwch Eifionydd. Mae rhai ardaloedd wedi difrodi oherwydd datblygiad diwydiant. I'r bardd, "bro rhwng môr a mynydd / Heb arni staen na chraith" yw Eifionydd.

Yn yr ail bennill, cymharir naws y ddau le. Mae'r ardal ddiwydiannol yn llawn berw ac fe'i disgrifir fel "newyddfryd blin" lle ceir "ymryson ynfyd". Ar y llaw arall cyfeirir ato'n "meddwi" ar hyfrydwch y lle: "Mae yno flas y cynfyd / Yn aros fel hen win." Mewn gwrthgyferbyniad â'r dyffryn diwydiannol, ceir yma heddwch a llonyddwch.

Mesur[golygu | golygu cod]

Telyneg yw'r gerdd hon, a chanddi bedwar pennill o chwe llinell yr un. Patrwm odli ABABCC sydd i bob pennill.

Arddull a thechnegau[golygu | golygu cod]

Egyr y gerdd gyda phersonoli'r dirwedd—"wyneb trist y Gwaith"—sydd yn cyfeirio at y pwll glo. Dyma ffordd effeithiol o gyfleu effaith y diwydiant ar arwynebedd y tir. Yn y pennill cyntaf hefyd ceir esiampl o ferf drosiadol: "Ond lle bu'r arad' ar y ffridd / Yn rhwygo'r gwanwyn pêr o'r pridd." Amaethyddiaeth yw'r unig ddiwydiant sy'n effeithio ar ardal Eifionydd ac mae'r ferf "rhwygo" yn creu delwedd bwerus wrth ddisgrifio'r aradr yn chwalu'r tir ac yn ei baratoi ar gyfer tyfiant y gwanwyn.

Yn yr ail bennill defnyddir y bardd gyffelybiaeth—"Mae yno flas y cynfyd / Yn aros fel hen win"—i gyfleu ei bleser wrth feddwl am yr ardal. Yn debyg i win, mae'r lle yn cyfoethogi gyda threigl amser.

Hanfod y gerdd yw'r gwrthgyferbyniad rhwng "hagrwch Cynnydd" a gogoniant natur. Defnyddir llu o ansoddeiriau i gyfoethogi'r darlun o'r ardal, ac yn y rheiny adlewyrchir y gwrthgyferbyniad rhwng natur a diwydiant. Gwelwn gasineb y bardd tuag at diwydiant yn ei ddewis o ansoddeiriau: "hagrwch", "trist", "ynfyd", "blin". Cawn gwrthgyferbyniad llwyr efo'r ansoddeiriau tynerach a deniadol sy'n disgrifio byd natur: "pêr", "llonydd", "plethedig", "mwyn", "tawel". Mae ailadrodd y rhain yn pwysleisio pa mor berffaith yw'r heddwch ac yn atgyfnerthu harddwch ei'n darlun o'r Lôn Goed. Gellir hefyd ystyried cyflythrennu'r geiriau "dyffryn diwydiannol" yn dangos gwrthwynebiad i ddiwydiant.

Neges y bardd[golygu | golygu cod]

Cymharu dwy ardal a wneir yma a'r bardd yn dangos sut y mae diwydiant wedi amharu ar rai broydd tra bod eraill yn dal i gynnig llonyddwch a rhywfaint o rin y gorffennol.

Mae'n amlwg fod R. Williams Parry yn rhamantydd. Gogoniant byd natur a chadw byd natur fel ag yr oedd sy'n bwysig iddo, yn hytrach nag amharu arno drwy ddod a diwydiant i'r ardal:

"O olwg hagrwch cynnydd"
"Draw o ymryson ynfyd"
"Chwerw'r newyddfyd blin"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan 'Y Casglwr'; adalwyd 06 Mehefin 2015