Eifionydd (Cerdd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cerdd Gymraeg gan R. Williams Parry ydy Eifionydd, sy'n ddisgrifiad o'r rhan hon o Ben-Llŷn, nad yw wedi newid llawer yng ngolwg y bardd. Sonir yma am y 'Lôn Goed' a chyffelybir ardal amaethyddol, tawel Eifionnydd gyda'r byd modern, diwydiannol. Mae'n ddihangfa i'r bardd, yng nghwmni cyfaill neu ar ei ben ei hun. Llwybr yw'r Lôn Goed, sy'n ymlwybro trwy ganol cefn gwlad am oddeutu pum milltir.[1]

Mae'r gerdd yn delyneg ar fydr ac odl.

R. Williams Parry[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n amlwg fod R. Williams Parry yn rhamantydd. Gogoniant byd natur a chadw byd natur fel ag yr oedd sy'n bwysig iddo, yn hytrach nag amharu arno drwy ddod a diwydiant i'r ardal:

"O olwg hagrwch cynnydd"
"Draw o ymryson ynfyd"
"Chwerw'r newyddfyd blin"

Iaith ac arddull[golygu | golygu cod y dudalen]

Hanfod y gerdd yw'r gwrthgyferbyniad rhwng 'hagrwch cynydd' a gogoniant natur.

Adlewyrchir y gwrthgyferbyniad rhwng natur a diwydiant gan yr ansoddeiriau. Gwelwn gasineb y bardd tuag at diwydiant yn ei ddewis o ansoddeiriau-

Trist, Chwerw, Blin.

Hefyd cawn gwrthgyferbyniad llwyr efo'r ansoddeiriau-

Per, llonydd, plethedig.

Mae ailadrodd y rhain yn pwysleisio pa mor berffaith yw'r heddwch ac yn atgyfnerthu harddwch ei'n darlun o'r lon goed.

Y Gerdd[golygu | golygu cod y dudalen]

O olwg hagrwch cynnydd
Ar wyneb trist y gwaith
Mae bro rhwng môr a mynydd
Heb arni staen na chraith,
Ond lle bu'r arad ar y ffridd
Yn rhwygo'r gwanwyn pêr o'r pridd.

Draw o ymryson ynfyd
Chwerw'r newyddfyd blin,
Mae yno flas y cynfyd
Yn aros fel hen win.
Hen, hen yw murmur llawer man
Sydd rhwng dwy afon yn Rhos Lan.

A llonydd gorffenedig
Yw llonydd y Lôn Goed,
O fwa'i tho plethedig
I'w glaslawr dan fy nhroed.
I lan na thref nid arwain ddim,
Ond hynny nid yw ofid im.

O! mwyn yw cyrraedd canol
Y tawel gwmwd hwn,
O'm dyffryn diwydiannol
Y dull y byd a wn;
A rhodio'i heddwch wrthyf f'hun,
Neu gydag enaid hoff, cytun.

R. Williams Parry

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan 'Y Casglwr'; adalwyd 06 Mehefin 2015