Eglwys y Santes Wenllwyfo
| Math | eglwys |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Llaneilian |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 49.5 metr |
| Cyfesurynnau | 53.3788°N 4.2908°W, 53.3788°N 4.2908°W |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Cysegrwyd i | Gwenllwyfo |
| Manylion | |
| Esgobaeth | Esgobaeth Bangor |
Eglwys a godwyd yn y 19g ger Dulas, Ynys Môn, yng ngogledd-ddwyrain yr ynys yw Eglwys y Santes Wenllwyfo.
Fe'i codwyd rhwng 1854 a 1856 yn lle'r hen eglwys o'r un enw sydd bellach yn adfeilion. Cysegrwyd y ddwy i santes leol na wyddys fawr ddim amdani, sef Gwenllwyfo. Roedd yr hen eglwys yn rhy fach ac mewn cyflwr gwael, felly gadawyd hi i ddadfeilio a chodwyd eglwys newydd yn ei lle, ychydig yn nes at Ystad Llys Dulas. Cyfrannodd perchennog Llys Dulas £936 at y gost o £1,417 er mwyn ei chael yn nes at ei dŷ, er bod trwch y gynulleidfa ymhellach oddi wrthi. Mae'r eglwys yn un o bedair ym mhlwyf Amlwch ac fel gweddill eglwysi Môn, mae'n rhan o Esgobaeth Bangor.
Yn 1876, cyfrannodd Arundell Neave (a oedd wedi priodi un o deulu Llys Dulas) 27 chwarel o wydr a ddaeth yma o fynachdy yn Fflandrys.
Oherwydd y ffenestri hyn mae wedi'ch chofrestru'n Gradd II* gan Cadw.[1][2]
Yn 2017 roedd gwasanaethau'n dal i gael eu cynnal yn yr eglwys newydd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ What is listing? (PDF). Cadw. 2005. t. 6. ISBN 1-85760-222-6. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-04-17. Cyrchwyd 2017-10-14.
- ↑ Cadw (2009). "Church of St Gwenllwyfo". Historic Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-31. Cyrchwyd 20 Medi 2011.
