Eglwys y Santes Fererid, y Rhath

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eglwys y Santes Fererid
St Margaret's Church, Roath.JPG
Math Eglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1870 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliad Y Rhath Edit this on Wikidata
Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.4929°N 3.15473°W Edit this on Wikidata
Manylion
Arddull pensaernïol Yr Adfywiad Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd i Margaret yr Wyryf Edit this on Wikidata

Eglwys plwyf y Rhath, yng Nghaerdydd, yw Eglwys y Santes Fererid o Antiochia. Adeilad neo-gothig ydyw, a adeiladwyd rhwng 1869 a 1870, ond saif ar safle capel canoloesol. Fe'i hystyrir yn un o weithiau gorau'r pensaer Cymreig John Prichard.[1]

Capel anwes i briordy'r Santes Fair yn nhref Caerdydd oedd ar y safle hwn yn wreiddiol. Daeth John Stuart, Ardalydd 1af Bute, yn dirfeddiannwr ar yr ardal yn y 18g hwyr, ac fe estynodd yr eglwys gan adeiladu mawsolëwm ar ei gyfer ef a'i deulu yn 1800. Wrth i'r Rhath droi'n faestref i Gaerdydd a nifer y trigolion gynyddu'n sylweddol, penderfynwyd dymchwel yr eglwys, a oedd erbyn hynny'n yn rhy fechan ar gyfer y plwyf.[2] Dechreuwyd ei hail-adeiladu i gynlluniau'r Cyrnol Alexander Roos ym 1867, ond ar ôl bwrw'r sylfeini penderfynodd y 3ydd Ardalydd, a oedd wedi troi'n 21 oed, i benodi John Prichard yn ei le.[3]

Yn yr ystlys ogledd-orllewinol cododd Prichard mawsolëwm newydd ar gyfer y Buteiaid yn 1881–6, mewn arddull crandiach na gweddill yr adeilad.[1] Cynlluniodd hefyd feindwr trawiadol ar gyfer yr eglwys, ond nid adeiladwyd hon a chodwyd tŵr cymharol isel yn ei le yn 1926 fel cofeb i'r plwyfolion a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.[2] Dinistriwyd llawer o'r cerrig beddau yn y fynwent gan gyngor y ddinas mewn ymgyrch i'w 'thacluso' yn 1969.[2]

Penodwyd yr eglwys yn adeilad rhestredig Gradd I ym 1975 oherwydd yr addurniadau cyfoethog ar y tu fewn sy'n nodweddiadol o waith Prichard, un o benseiri eglwysig blaenaf Cymru yn y 19g, ac oherwydd pwysigrwydd y mawsolëwm fel yr unig un o'i fath yng Nghymru.[4]

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. p. 297. 
  2. 2.0 2.1 2.2 Rose, Jean (2013). Cardiff Churches Through Time. Stroud: Amberley Publishing. pp. 18–20. 
  3. Hilling, John B. (1973). Cardiff and the Valleys: Architecture and townscape. Llundain: Lund Humphries. p. 119. 
  4. (Saesneg) Church of St Margaret, Penylan. British Listed Buildings. Adalwyd ar 5 Ebrill 2014.